Meddalwedd e-lythyr

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Meddalwedd e-lythyr

Postiogan e-fugail » Maw 25 Awst 2009 8:33 am

Oes rhywun yn gwybod am meddalwedd anfon e-lythyron sydd yn gwbl ddwyieithog, hy galluogi chi cael 'sign up forms' Cymraeg a Saesneg, anfon elythyr i tanysgrifwyr drwy templed Cymraeg neu Saeseng a trefnu tanysgrifwyr mewn i rhestri penodol ag yn y blaen a dad-danysgrifio drwy Cymraeg neu Saesneg?

diolch
e-fugail
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Iau 26 Gor 2007 10:52 am

Re: Meddalwedd e-lythyr

Postiogan Duw » Maw 25 Awst 2009 4:14 pm

Dwi heb weld un dwyieithog, er posib bod system drupal neu joomla'n darparu gwasanaeth debyg. A oes profiad php/mysql 'da ti? Posib bydde'n haws i ti greu sgript dy hun. Ni fyddai'n anodd iawn i greu un syml. Chwilia sourceforge neu phpclasses neu safleodd tebyg. Os na geid di sens yna, postia a chaf edrych be sy gen i. Er ni fyddaf mewn sefyllfa i'th helpu tan ganol Medi.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Meddalwedd e-lythyr

Postiogan Rhys » Mer 26 Awst 2009 8:45 pm

Beth am gysylltu â sefydliadau sydd yn, neu'n debygol o fod yn cynnig rhywbeth tebyg. Beth am yr Academi (dyfalu ydw i), neu mae Mentrau iaith y de ddwyrain yn danfon e-chlysur unia'n ddwyieithog neu yn y dewis iaith, sy'n seiliedig ar wybodaeth sy'n cael ei fwydo i'w adrannau digwyddiadau/newyddion eu gwahanal gwefannau. Fel mae Duw yn ddweud, mae'r rhan hefyd yn cael eu creu gan fas data php.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron