Tudalen 1 o 1

Android yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 11:34 am
gan Dafydd ab Iago
Dwi'n mynd i brynu ffôn newydd - dim iPhone ond rhywbeth agored gyda Android neu Linux.

Oes 'na rywbeth i'w awgrymu am £400-500?

Hefyd, ydy Android neu Linux yn cynnig cyfiethau Cymraeg ar y ffôn ?

Dafydd

Re: Android yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Llun 31 Awst 2009 8:43 am
gan Rhys
Dw i ddim yn meddwl bod o ar gael yn Gymraeg, ond gyda'r sôn am y ffôn Samsung sydd allan yfory gyda rhyngwyneb Cymraeg, meddyliais pa mor anodd yw lleoleiddio ffonau symudol sy'n cael eu gyrru gan feddalwedd Linux(fel Neo FreeRunner). Mae'n debyg bod Android yn cael ei leoleiddio, ond dw i ddim yn swir pa mor agored yw'r broses.

Re: Android yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Llun 18 Hyd 2010 9:45 pm
gan C++

Re: Android yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Sad 30 Hyd 2010 7:24 pm
gan Dafydd ab Iago


Dwi ddim yn gwybod sut mae pethau yn digwydd ar gyfer ieithoedd eraill yn yr un safle fel y Gymraeg (megis Euskera, Catalaneg ayyb) ond siwr o fod eu bod nhw'n meddwl ac yn cyllunio'n well.

Dyn ni'n gwybod nawr bod Android yn bwysig ond does dim corff cyhoeddus (fel Bwrdd yr Iaith) sy'n meddwl am y peth. Efallai nad ydy Microsoft yn caniatau gweithio gyda systemau eraill megis linux neu android?