Problemau wrth aildiwnio'r bocs Freeview ac EyeTV ar y Mac

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problemau wrth aildiwnio'r bocs Freeview ac EyeTV ar y Mac

Postiogan Pendra Mwnagl » Maw 06 Hyd 2009 8:12 pm

Helo

Ydach chithau'n cael trafferth wrth aildiwnio eich bocsys Freeview? Wedi aildiwnio bocs Philips yn y gegin gan ddarganfod fod sianel 3 bellach yn ITV1 West a 4 yn Channel 4. ITV1 Wales ac S4C wedi symud i 800 a rhywbeth. :ing:

Yn waeth byth, wrth aildiwnio EyeTV ar y Mac, dwi wedi colli BBC1 a BBC2 yn gyfangwbl.

Heeelp
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Problemau wrth aildiwnio'r bocs Freeview ac EyeTV ar y Mac

Postiogan ger4llt » Maw 06 Hyd 2009 8:56 pm

Dwi'n cael yr un math o broblemau - bocs freeview Sony sy' genna' i, ac ers i S4C ail-osod 'u signal digidol, dwi di colli'r sain yn gyfan gwbl (heblaw, yn od iawn, weithia' ma dim ond llais llun ddisgrifiad yn ymddangos, a weithia' sŵn cefndirol yn unig, ar 'Byw yn yr Ardd' aballu :? )

Fel ti'n 'i gael, mae sianel S4C arall wedi ymddangos yn slot rhif 800, a ma hwnna yn dudalen gwybodaeth yn dweud i mi ail-diwinio'n set.

Rhwystredig a deud y lleia - wedi trio bob dim a Gwifren Gwylwyr na Tinopolis (well iddynt stopio chwara o gwmpas yn y syrcas) yn ddim help o gwbl!

Dwi 'di clywed mai ryw broblem â trosglwyddydd Llanddona sy'n achosi hwn, lle ti'n cael dy signal di? Yr unig ofn sgin i ar hyn o bryd yw fod gweddill fy sianelau yn colli 'u sain hefyd wrth i'w signalau hwy gael eu hail-osod! :x
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Problemau wrth aildiwnio'r bocs Freeview ac EyeTV ar y Mac

Postiogan dafydd » Maw 06 Hyd 2009 10:08 pm

Pendra Mwnagl a ddywedodd:Ydach chithau'n cael trafferth wrth aildiwnio eich bocsys Freeview? Wedi aildiwnio bocs Philips yn y gegin gan ddarganfod fod sianel 3 bellach yn ITV1 West a 4 yn Channel 4. ITV1 Wales ac S4C wedi symud i 800 a rhywbeth.

Ai erial bach ar ben y teledu yw e? Mae'n debyg ei fod yn pwyntio'r ffordd anghywir. Mae angen pwyntio at Gwenfo (yn y de-ddwyrain).

Gan fod trosglwyddydd y Mendip yn agos i Gaerdydd, mae'n bosib pigo fyny sianeli o hwnna hefyd yn ogystal a Gwenfo sy'n boen. Y tric yw ail-diwnio pan mae'r tywydd yn wael (gwasgedd isel) am nad yw'r signal yn teithio mor bell.

Gan fod rhai sianeli wedi symud, mi fydd yr hen leoliadau yn dangos fel rhifau 800+ am nawr (nes fod Gwenfo yn cwblhau y newid i ddigidol ym mis Mawrth 2010 mae'n siwr).

Diddorol clywed am y problemau sain. Yn wahanol i lawer o sianeli mae S4C yn darlledu tri trac sain - un cymraeg, un saesneg (wnaeth achos gymaint o strach ar sylwebaeth chwaraeon rhai wythnosau nôl). Mae un arall ar gyfer sain ddisgrifio. Fe ddylai fod rhyw fodd yn y bwydlenni ar bob bocs i newid y trac sain, ond dyw e ddim mor amlwg ar rai.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron