Dwi'n cael yr un math o broblemau - bocs freeview Sony sy' genna' i, ac ers i S4C ail-osod 'u signal digidol, dwi di colli'r sain yn gyfan gwbl (heblaw, yn od iawn, weithia' ma dim ond llais llun ddisgrifiad yn ymddangos, a weithia' sŵn cefndirol yn unig, ar 'Byw yn yr Ardd' aballu
)
Fel ti'n 'i gael, mae sianel S4C arall wedi ymddangos yn slot rhif 800, a ma hwnna yn dudalen gwybodaeth yn dweud i mi ail-diwinio'n set.
Rhwystredig a deud y lleia - wedi trio bob dim a Gwifren Gwylwyr na Tinopolis (well iddynt stopio chwara o gwmpas yn y syrcas) yn ddim help o gwbl!
Dwi 'di clywed mai ryw broblem â trosglwyddydd Llanddona sy'n achosi hwn, lle ti'n cael dy signal di? Yr unig ofn sgin i ar hyn o bryd yw fod gweddill fy sianelau yn colli 'u sain hefyd wrth i'w signalau hwy gael eu hail-osod!