Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 16 Tach 2009 10:43 pm

Helo Gîcs!

Mae na gynlluniau ar droed i (gyd)drefnu'r BarCampcyntaf Cymraeg - Hacio'r Iaith.

Y bwriad ydi cael diwrnod o rannu gwybodaeth a thrafod y we yn y Gymraeg. Gall hyn fod yn wefannau Cymraeg, yn ddefnydd Cymraeg ar wefannau eraill, neu jest yn drafod stwff gwe amrywiol, ond yn y Gymraeg. Da ni'n anelu ar hyn o bryd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn y 30ain Ionawr, yn rhywle yn Aberystwyth, ond mae'r rhain i'w cadarnhau.

Mae na gofnodion blog ar Metastwnsh a Quixotic Quisling sy'n esbonio'n well chydig o'r syniadau tu ôl i'r peth, ond rydyn ni eisiau ei drefnu fel cynhadledd agored, h.y. mae popeth yn cael ei drefnu gan y mynychwyr, gan gynnwys pa gyflwyniadau sydd am ddigwydd a pa ffurf mae'r peth yn gymryd.

Os da chi isio cyfrannu, [=http://hedyn.net/hacio_r_iaith#sesiynau_arfaethedigurl]gallwch chi gynnig siarad am rywbeth sy'n eich diddori[/url], cynnig syniad am rywbeth i rywun arall drafod,helpu gyda rhyw elfen o'r trefnu a hyrwyddo, neu jest dod i gymryd rhan ar y dydd.

Mae o yn bwrpasol wedi ei anelu at bob math o ddefnyddwyr y rhyngrwyd: o flogwyr a chynhrychwyr cynnwys i raglennwyr a dylunwyr gwefannau. Bydd na sesiynau mwy technegol - sef yr elfen Hacio - ar gyfer rhaglennwyr profiadol ac amrhofiadol. Gobeithio bydd na ryw elfen ohono at ddant pawb.

Ond wnaiff hynny ond gweithio os mae pobol yn fodlon dod i siarad felly sticiwch o yn eich dyddiadur a rhowch eich enw lawr i ddod. Dwi'n recno bydd o'n wych o gyfle i sgwrsio'n frwd gyda phobol o'r un anian, dysgu rhywbeth newydd a thrio meddwl am ffyrdd gwell o wneud pethau. Bydd o'n hollol anffurfiol, a dim byd tebyg i gynhadledd lychlyd, a gobeithio byddwn ni'n cael digwyddiad cymdeithasol ar ddiwedd y dydd (h.y. bŵz!).

Byddwn ni hefyd yn annog pawb sy'n dod i gofnodi a thrafod y digwyddiad ar-lein yn fyw ar amrywiol blatfformau, fel bod posib cael cyfranniadau gan bobol nad sy'n gallu dod hefyd.

Felly ewch draw i'r Wici ar gyfer y digwyddiad, a chyfrannwch ato fo. Neu fel arall, gadwch sylw fan hyn, neu ar y blogiau sy'n sôn amdano a byddwn ni'n rhoi rheiny ar y Wici hefyd.

Gobeithio gallwch chi ddod! Os ddim gadwch ni wybod be da chi'n feddwl yndê.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - Aberystwyth (diwedd Ionawr-ish!)

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 17 Tach 2009 9:25 am

Hwn yn swnio'n gret. Dwi am ddod!!

Falle bydde diddordeb gyda Duw hefyd?? Un arall da i gysylltu gyda os ti'n chwilio am rhywun sy'n codio a chreu rhaglenni ayb yw txipi.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - Aberystwyth (diwedd Ionawr-ish!)

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 17 Tach 2009 10:25 pm

Falch y galli di ddod Hedd. Gobeithio nad wyt ti'n meindio ond dwi di ychwanegu dy enw at y rhestr ar y Wici? Da ni fyny at 14 o bobol rwan!

Dwi wedi anfon tweet i Dduw(!) ac wedi crybwyll hyn i txipi yn ei briodas, ond dwi'n amau y bydd o'n cofio iot o hynny ;)

Byddai hi'n wych eu cael nhw yno.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - Aberystwyth (diwedd Ionawr-ish!)

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 06 Ion 2010 8:11 pm

Dyma'r wybodaeth diweddaraf:

Hacio'r Iaith
Dydd Sadwrn 30ain o Ionawr 2010
Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth
http://haciaith.com/

Beth yw Hacio’r Iaith?

Digwyddiad newydd a chyffrous yw Hacio’r Iaith ble byddwn yn trin a thrafod sut mae technoleg yn berthnasol i’r Gymraeg, sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio a beth yw’r posibiliadau.

Caiff sawl maes ei drafod, gan gynnwys lleoleiddio, rhyngwladoli, cyfieithu peiriant, API, stwnsh, addysg, gwasanaethau symudol, blogio a chyfryngau cymdeithasol eraill yn Gymraeg.

Bydd y digwyddiad yn rhannol BarCamp a rhannol Hack Day (y ddau yn gydnabyddedig yn fyd-eang fel fformatau ar gyfer digwyddiadau). Golygir hyn bydd llawer o rannu syniadau, sesiynau arddangos ac ymarferol, oll drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhaglen y dydd yn user-generated, felly rydym yn annog cyfranogaeth go iawn a croesawn unrhyw un sy’n dymuno cynnal sesiwn yn berthnasol i dechnoleg a’r Gymraeg. Gall sesiwn gael ei gyflwyno gan fwy nag un person – os yw’n ddefnyddiol, ewch amdani! Bydd yna stwff ar gyfer dechreuwyr pur, y gîcs, a phawb yn y canol.

I weld yn union beth fydd yn digwydd ar y diwrnod, ewch draw at ein wiki - http://hedyn.net/hacio_r_iaith

Fel gynhelir Hacio’r Iaith ar ddydd Sadwrn 30ain Ionawr yn Adeilad Parry Williams, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth [map - http://www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/maps/penglais/ ].

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr a’i ariannu gan ein noddwyr.

Fe groesawir cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, ond ffocws y digwyddiad yw’r defnydd o dechnoleg y we gan siaradwyr Cymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg ac hefyd ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael drwy gais o flaen llaw.

http://haciaith.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Duw » Mer 06 Ion 2010 11:10 pm

Diolch am hynny bois, jest wedi ymuno a gobeithio ei wneud - dibynnu ar babysitters! Sori Rhod - dwi ddim yn twitro bellach - mae fy mywyd yn ddigon o fes fel mae - dwi ddim ishe pawb arall i wybod hynny hefyd.

Ger llaw - pa amser? Dechrau/Gorffen?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 07 Ion 2010 11:28 am

Diolch am y *bwp* Hedd. :)

Bydd cofrestru rhwng 9yb a 10yb.

Trefnu sesiynau rhwng 10 a 10.30 wedyn gorffen am 7pm fan bellaf.

Bydd yr adran hon yn cael ei ddiweddaru'n fuan gyda drafft o'r amserlen wag (gwag, gan y bydd y sesiynau i gyd yn cael eu amserlennu ar y diwrnod).

Mae llwyddiant y digwyddiad i gyd yn ddibynnol ar gyfraniadau gan bobol, felly os da chi'n dod, bydde'n grêt pe gallech chi wneud cyflwyniad bach (20 munud fydd y slotiau) ar unrhyw bwnc o fewn y thema. Gallwch hyd yn oed drefnu panel os da chi isio, gwneud sesiwn "how-to", neu wneud demo o wefan newydd er mwyn cel adborth cynulleidfa. Sdim rhaid i chi siarad am y slot cyfan chwaith, a gall o fod yn sgwrs er mwyn bownsio syniadau. Mae o fyny i chi a deud y gwir.

Bydd Metastwnsh hefyd yn recordio podlediad yn fyw (a falle ei ddarlledu yn fyw ar Ustream hefyd).

Byddwn ni'n trio recordio gymaint ag y gallwn ni o'r digwyddiad, ond gobeithio hefyd y bydd lot o'r bobol sydd yn mynychu yn trydar a blogio'n fyw amdanyn nhw a chymryd nodiadau wrth i ni fynd yn ein blaenau.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 26 Ion 2010 10:59 pm

Helo, rydyn ni rwan fyny at 40 o bobol yn mynychu!

O'n i'n meddwl bod ni'n llawn ond ar ôl checkio gallwn ni wasgu ambell un arall mewn.

Ewch draw at y Wiki i weld beth sy'n digwydd!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 31 Ion 2010 2:38 pm

Yn anffodus doedd dim modd i fynd ddoe yn y diwedd, ond llwyth o stwff yn dilyn y gynhadledd ar wefan hacio'r iaith - http://haciaith.com/

Dyma rhai fideos gan Sioned Ann Edwards:











Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain o Ionawr, Aberystwyth

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 31 Ion 2010 2:42 pm

Rhodri ap Dyfrig yn trafod Hacio’r iaith ar BBC Radio Cymru - I'w glywed ar wefan Metastwnsh
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Digwyddiad: Hacio'r Iaith - 30ain Ionawr, Aber #haciaith

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 31 Ion 2010 2:52 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron