e-fugail a ddywedodd:dWI wrthi'n dylunio safle, tra cymryd i ystyriaeth hygyrchedd parthed bro wsers Firefox/IE7 & 8/Google Chrome ayb, oes rhyw modd fedrai cael 'get away' gyda anwybyddu IE6? oes gan rhywun syniad am take up IE6 dyddia yma?
Un o'r prif resymau i adeiladu gwefan gyda IE6 mewn golwg yw os ydych chi'n gweithio i gleient sydd yn gofyn am hynny yn benodol. Fel arfer mae nhw'n gofyn oherwydd eu bod nhw'n gweithio yn y sector gyhoeddus neu ryw gorfforaeth mawr sydd ddim wedi ymuno a'r byd modern a uwchraddio IE6 ar eu cyfrifiaduron.
Ar draws y gwefannau dwi'n gynnal mae defnydd IE 6 rhwng 10 a 12% o hyd, yn anffodus.
Mae dau elfen i ystyried - y dylunio ac unrhyw god Javascript. Mae yna dechnegau gweddol syml/cyflym o wneud yn siwr fod y cynllun yn edrych yn dderbyniol yn IE 6 heb gyfaddawdu y dylunio ar gyfer porwyr modern. Os nad yw gwefan yn gweithio o gwbl yn IE6 mi fydde'n i'n galw hwnna yn broblem hygyrchedd. Ond os mai dim ond ychydig o bethau sy'n edrych yn od neu allan o le a fod y cynnwys i gyd i'w weld yn ddi-drafferth, dwi ddim yn gweld y broblem.
O ran JS, mae canllawiau hygyrchedd yn dweud na ddylai gwefan ddibynnu yn llwyr ar hynny i weithredu beth bynnag (neu gynnig fersiwn heb Javascript, fel mae Gmail yn gwneud gyda'i fersiwn HTML plaen).
Mae problem IE6 yn raddol ddisgyn - beth sy'n waeth yw'r nifer cynyddol o ddatblygwyr sydd yn dibynnu ar IE7 yn yr un modd wnaethon nhw ddibynnu ar IE6 a ddim yn profi eu gwefan yn IE8/Firefox 3.5/Chrome ac ati!