Tudalen 1 o 1

Hygyrchedd ac IE6

PostioPostiwyd: Iau 10 Rhag 2009 11:56 am
gan e-fugail
dWI wrthi'n dylunio safle, tra cymryd i ystyriaeth hygyrchedd parthed bro wsers Firefox/IE7 & 8/Google Chrome ayb, oes rhyw modd fedrai cael 'get away' gyda anwybyddu IE6? oes gan rhywun syniad am take up IE6 dyddia yma?

Re: Hygyrchedd ac IE6

PostioPostiwyd: Iau 10 Rhag 2009 2:58 pm
gan dafydd
e-fugail a ddywedodd:dWI wrthi'n dylunio safle, tra cymryd i ystyriaeth hygyrchedd parthed bro wsers Firefox/IE7 & 8/Google Chrome ayb, oes rhyw modd fedrai cael 'get away' gyda anwybyddu IE6? oes gan rhywun syniad am take up IE6 dyddia yma?

Un o'r prif resymau i adeiladu gwefan gyda IE6 mewn golwg yw os ydych chi'n gweithio i gleient sydd yn gofyn am hynny yn benodol. Fel arfer mae nhw'n gofyn oherwydd eu bod nhw'n gweithio yn y sector gyhoeddus neu ryw gorfforaeth mawr sydd ddim wedi ymuno a'r byd modern a uwchraddio IE6 ar eu cyfrifiaduron.

Ar draws y gwefannau dwi'n gynnal mae defnydd IE 6 rhwng 10 a 12% o hyd, yn anffodus.

Mae dau elfen i ystyried - y dylunio ac unrhyw god Javascript. Mae yna dechnegau gweddol syml/cyflym o wneud yn siwr fod y cynllun yn edrych yn dderbyniol yn IE 6 heb gyfaddawdu y dylunio ar gyfer porwyr modern. Os nad yw gwefan yn gweithio o gwbl yn IE6 mi fydde'n i'n galw hwnna yn broblem hygyrchedd. Ond os mai dim ond ychydig o bethau sy'n edrych yn od neu allan o le a fod y cynnwys i gyd i'w weld yn ddi-drafferth, dwi ddim yn gweld y broblem.

O ran JS, mae canllawiau hygyrchedd yn dweud na ddylai gwefan ddibynnu yn llwyr ar hynny i weithredu beth bynnag (neu gynnig fersiwn heb Javascript, fel mae Gmail yn gwneud gyda'i fersiwn HTML plaen).

Mae problem IE6 yn raddol ddisgyn - beth sy'n waeth yw'r nifer cynyddol o ddatblygwyr sydd yn dibynnu ar IE7 yn yr un modd wnaethon nhw ddibynnu ar IE6 a ddim yn profi eu gwefan yn IE8/Firefox 3.5/Chrome ac ati!

Re: Hygyrchedd ac IE6

PostioPostiwyd: Iau 10 Rhag 2009 5:39 pm
gan Mwnci Banana Brown
BURN IE6!!
A gweud y gwir, llosgwch IE yn gyfan gwbwl!

Re: Hygyrchedd ac IE6

PostioPostiwyd: Gwe 11 Rhag 2009 7:37 am
gan Duw
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:BURN IE6!!
A gweud y gwir, llosgwch IE yn gyfan gwbwl!


Allai ddim cyntuno mwy. Ond, yn anffodus, mae Dafydd yn iawn (yn amlwg), mae llwyth o bobl dal yn defnyddio IE6. Mae rhai yn dal yn defnyddio Windows 98! Nid yw hyd yn oed XP wedi'u cyrraedd eto.

Mae MS wedi gwneud cymaint o lanastr gydag IE o'r cychwyn, gyda ffyrdd ansafonol o wneud pethau - bid i orfodi pawb i ddilyn eu ffyrdd nhw mwy na thebyg - dwi ffili gweld unrhyw ffordd mas o hwn iddyn nhw. Wrth greu porwr newydd, mae'n rhaid sicrhau nid ydynt yn 'torri' gwefannau sydd yn bodoli eisoes, sy llawn cod spaghetti jest i redeg yn gywir ar IE6/7.

Bydd yn ymwybodol o'r 'conditional comments' mae modd defnyddio i ddangos pethau'n wahanol ar wahanol fersiynnau o IE. Rwyt hefyd yn gallu creu ffeiliau css sydd yn sbesifig i wahanol fersiynnau o IE. Poen llwyr, ond posib un o'r ffyrdd orau o ddiogelu dy wefan rhag cael ei dinistrio gan fersiynnau newydd o IE.

Er fel ma Daf yn gweud - paid รข mynd dros ben llestri. Dibynnu ar bwysigrwydd dy wefan, gallet rhoi baner 'LLADD IE6' arno a stico dau fys lan iddo.