Fi'n deall y gwahaniaeth rhwng DVD R a DVD RW h.y. y cyntaf (R) yn meddwl 'Recordable', lle mae modd recordio unwaith yn unig ac RW yn meddwl 'ReWritable' lle mae modd recordio tro ar ol tro, ond beth dwi ddim yn deall ydy'r '+' a'r '-'. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng DVD-R a DVD+R er enghraifft? Fi ishe trosi rhai hen dapau VHS i DVD a fi'n meddwl mod i wedi dod o hyd i ffordd trwy gymysgedd o ddefnyddio hen beiriant VHS, peiriant recordio DVD a'r teledu, ond dwi ddim yn siwr pa fath o ddisgau DVD sydd angen arnaf i.