Wi wedi bygro lan sgrin y gliniadur. Wi ddim yn siwr beth ifi wedi neud iddi hi. Ma'r gliniadur yn gwitho'n iawn; fi'n cal gweld ffilms a darllin pethach arno ond ma ddi fel bod rhyw condensation tu ol y sgrin. Mae patrymau llwyd di-siap yn y cefndir, ac mae nhw'n raddol newid fel taw hylif yn symud yw hi. Er bo fi'n cal gweld a darllin popith ar y sgrin, ma hyn wrth reswm yn ofnadw o irritating ac yn sbwylo'r pleser fi'n gal o watsho Celebrity Big Brother ar hyn o bryd.
Wi ddim yn cofio colli dim byd arni er own i'n arseholed pwy noswith ac ma hwnna'n bosibiliad gwaetha'r modd. Ta p'un i, fi'n ffilu diall shwt bysa hwnna wedi effeithio ar y sgrin heb ffwcan lan y gliniadur yn gyfan gwbwl fel digwyddodd ifi o'r blan.
Fy nghwestiwn yw a odi ddi'n bosib ifi gwyiro hyn ne fydda i'n gorffod talu bom i gal sgrin newydd, ac os felly faint fydd hwnna'n debygol o gosti.
Ma gweud bo fi'n pissed off yn understatement ond byswn i'n ddiolchgar am unrhyw gyngor.
Diolch