Problem gida sgrin y gliniadur

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problem gida sgrin y gliniadur

Postiogan Kez » Sad 09 Ion 2010 1:19 pm

Wi wedi bygro lan sgrin y gliniadur. Wi ddim yn siwr beth ifi wedi neud iddi hi. Ma'r gliniadur yn gwitho'n iawn; fi'n cal gweld ffilms a darllin pethach arno ond ma ddi fel bod rhyw condensation tu ol y sgrin. Mae patrymau llwyd di-siap yn y cefndir, ac mae nhw'n raddol newid fel taw hylif yn symud yw hi. Er bo fi'n cal gweld a darllin popith ar y sgrin, ma hyn wrth reswm yn ofnadw o irritating ac yn sbwylo'r pleser fi'n gal o watsho Celebrity Big Brother ar hyn o bryd.

Wi ddim yn cofio colli dim byd arni er own i'n arseholed pwy noswith ac ma hwnna'n bosibiliad gwaetha'r modd. Ta p'un i, fi'n ffilu diall shwt bysa hwnna wedi effeithio ar y sgrin heb ffwcan lan y gliniadur yn gyfan gwbwl fel digwyddodd ifi o'r blan.

Fy nghwestiwn yw a odi ddi'n bosib ifi gwyiro hyn ne fydda i'n gorffod talu bom i gal sgrin newydd, ac os felly faint fydd hwnna'n debygol o gosti.

Ma gweud bo fi'n pissed off yn understatement ond byswn i'n ddiolchgar am unrhyw gyngor.

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Problem gida sgrin y gliniadur

Postiogan Duw » Sad 09 Ion 2010 10:48 pm

Tria hwn: http://tinyurl.com/yhz9hx8 :lol:

Os nagyw'r cyfrifiadur dan warant, tynna fe mas i weld os o's dwr yno fe. Os na, posib bydd ishe sgrin newydd arnot ti. Gwela'r ddolen uchod os o's e.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron