Diolch Ceri. Ie, un o'r pethau fflat na sydd gennyf! Diolch byth, dim ond 10 mis oed ydyw a dal dan warant a gan hynny yr wyf yn gobeithio bydd modd cael un newydd heb dalu.
Ond be sy'n ei achosi? Prin fod werth cael sgrin newydd sbon danlli o dan y warant os bydd yn marw, yn yr un modd, mis Mai nesaf pan fydd y warant wedi dod i ben.
Rwyf wedi bod yn ystyried prynu teledu LCD HD, ond os ydy'r smotyn du yn broblem cyffredinol, onid gwell bydd aros efo’r hen deli-diwb-mawr?
Mae'r smotyn mwyaf wedi magu hanner cm ers imi bostio'r cwestiwn gwreiddiol - mae ei weld yn tyfu fel gwylio ffilm arswyd o'r 1980au! A fydd y smotyn yn ehangu allan o sgrin fy nghyfrifiadur ac yn dechrau duo'r cyfan o'm mywyd?