Smotyn Du ar y sgrin

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 11 Gor 2010 5:09 pm

Y mae sgrin fy nghyfrifiadur wedi magu dau smotyn du yn fwyaf sydyn. Tua phythefnos yn ôl yr oeddynt yn faint pen pin, ond bellach y maent wedi tyfu i tua 6cm ar draws y canol, ac maen nhw'n dal i dyfu.

Oes unrhyw un yn gallu awgrymu be sydd wedi achosi'r smotiau?

A oes modd eu trwsio, neu a bydd rhaid imi brynu sgrin newydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan ceribethlem » Sul 11 Gor 2010 7:42 pm

Ife screen LCD yw e?
Os taw e' mae'n swno fel pe bae niwed difrifol wedi ei wneud i'r screen, ac fod y crisialau ddim yn ymateb i stimwlws bellach. Fi'n ofni fod dy sgrin ar fin marw a fod eisiau un newydd arnat.
Gobeiethio fod rhywun mwy gwybodus na fi yn gallu dweud fy mod yn anghywir a'i achub, ond dwi'n ofni;r gwaethaf.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 12 Gor 2010 12:47 am

Diolch Ceri. Ie, un o'r pethau fflat na sydd gennyf! Diolch byth, dim ond 10 mis oed ydyw a dal dan warant a gan hynny yr wyf yn gobeithio bydd modd cael un newydd heb dalu.

Ond be sy'n ei achosi? Prin fod werth cael sgrin newydd sbon danlli o dan y warant os bydd yn marw, yn yr un modd, mis Mai nesaf pan fydd y warant wedi dod i ben.

Rwyf wedi bod yn ystyried prynu teledu LCD HD, ond os ydy'r smotyn du yn broblem cyffredinol, onid gwell bydd aros efo’r hen deli-diwb-mawr?

Mae'r smotyn mwyaf wedi magu hanner cm ers imi bostio'r cwestiwn gwreiddiol - mae ei weld yn tyfu fel gwylio ffilm arswyd o'r 1980au! A fydd y smotyn yn ehangu allan o sgrin fy nghyfrifiadur ac yn dechrau duo'r cyfan o'm mywyd? :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan ceribethlem » Llun 12 Gor 2010 9:09 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:Diolch Ceri. Ie, un o'r pethau fflat na sydd gennyf! Diolch byth, dim ond 10 mis oed ydyw a dal dan warant a gan hynny yr wyf yn gobeithio bydd modd cael un newydd heb dalu.

Ond be sy'n ei achosi? Prin fod werth cael sgrin newydd sbon danlli o dan y warant os bydd yn marw, yn yr un modd, mis Mai nesaf pan fydd y warant wedi dod i ben.

Rwyf wedi bod yn ystyried prynu teledu LCD HD, ond os ydy'r smotyn du yn broblem cyffredinol, onid gwell bydd aros efo’r hen deli-diwb-mawr?

Mae'r smotyn mwyaf wedi magu hanner cm ers imi bostio'r cwestiwn gwreiddiol - mae ei weld yn tyfu fel gwylio ffilm arswyd o'r 1980au! A fydd y smotyn yn ehangu allan o sgrin fy nghyfrifiadur ac yn dechrau duo'r cyfan o'm mywyd? :ofn:

O'r hyn wy'n deall, niwed i'r sgrin sy'n ei achosi. OS wy'n cofio'n iawn mae'n meddwl fod y crisialau yn dechrau cwympo mas o'u lle, ac yna does dim yn cadw'r gweddill yn eu lle. Gan fod y sgrin dan warant, does dim gormod o broblem. Wyt ti wedi gwglo gwneuthuriad dy sgrin i weld os yw'n broblem cyffredin? Os ydyw wedyn gofyn i newid i sgrin gwneuthuriad gwahanol pan yn mynd nol am y warant.
Mae nifer o sgrinau LCD gyda fi, gan gynnwys teledu HD LCD (fel i ti grybwyll cael), heb gael unrhyw broblemau gyda nhw. Mae manteision i LCD yn fawr dros yr hen deledu tiwb, o ran mae'n cymryd cryn dipyn llai o le ac yn defnyddio lot llai o egni. Mae biliau trydan wedi cwmpo lot gyda fi ers newid o teledu tiwb i LCD.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan Duw » Llun 12 Gor 2010 9:32 pm

Yn anffodus, mae LCDs cyfrifiaduron yn tueddu dioddef o'r broblem hon. Gall ddigwydd 'yn naturiol' dros amser - stim wastod angen ergyd. Unwaith iddo ddechre, tueddu gwaethygu mae'r diawl. Stim ffordd o'i drwsio dwi'n gwybod amdani. Gyda gwarant posib y geid di well fersiwn beth bynnag. :winc:

Nawr dwed y gwir HRF, a oeddet ti'n gweld y gwarant yn dod lan a phenderfynu taflu cans cwrw gwag at y sgrin? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 13 Gor 2010 12:20 am


Nawr dwed y gwir HRF, a oeddet ti'n gweld y gwarant yn dod lan a phenderfynu taflu cans cwrw gwag at y sgrin? :rolio:


Sht! Paid a son am bethau felly rhag ofn bod y gwarantydd yn aelod o'r Maes. Dim ond caniau gweigion byddwn yn taflu at y cyfrifiadur wrth reswm - ond mae ôl caniau llawn ar fy sgrin :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan dafydd » Maw 13 Gor 2010 6:26 pm

Mae'n werth gwario ychydig bach fwy ar sgrin LCD i gael gwarant 3 blynedd (neu fwy). Mae digon o frandiau da ond rhad i'w gael fel LG, Viewsonic neu Iiyama. Mae yna rhai cwmniau fel Philips yn cynnig gwarant "dim picsel marw" ar rai modelau drutach ond mae'n bosib nad oes angen hynny ar gyfer defnydd cyffredinol.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Smotyn Du ar y sgrin

Postiogan Macsen » Gwe 16 Gor 2010 1:15 pm

Roeddwn i'n meddwl mai trafodaeth am Undodwyr oedd hwn cyn agor yr edefyn! :ofn:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron