Helo, angen dipyn o cyngor parthed Deddf Dioegelu Data / E-lythyron
Mae'n stori rhy hir a diflas i adrodd, gyda scenario botensial lle fydd pobl yn tanysgrifio drwy ffurflen ar gwefan i dderbyn e-lythyr. Ar ol gwasgu botwm 'submit' ar ddiwedd y ffurflen bydd y wybodaeth yn cael ei awtogyfeirio mewn e-bost testun plaen i 3ydd parti/partner lle bydd nhw'n mewnbynnu gwybodaeth (enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost) mewn i meddalwedd e-lythyr nhw ac wedyn yn anfon allanyr e-lythyr at y tanysgrifwyr.
Fydd o'n iawn i wneud hyn drwy rhoi datganaid deddf dioegelu data bod y wybodaeth yn medru cael ei ddefnydio gan 3ydd parti/partner blah blah ac bod opsiwn awtomatig i dad-danysgrifio ar yr elythyr ei hun neu drwy'r gwefan (mewnbynnu enw a cyferiad ebost ar tudalen dad-danysgrifio ac mae rhain wedyn yn cael ei awtogyferio dros ebost i'r 3ydd parti / partner).
Neu ydy'r ffaith bod y wybodaeth yn y lle cyntaf yn cael ei awtogyfeiro o'r ffurflen cofrestru arlein dros ebost testun plaen i 3ydd parti/partner yn torri unrhyw rheolau Deddf Dioegelu?
Data?
Methu gweld unrhyw ganllawiau fel hyn ar y we