Tudalen 1 o 1

Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2010 7:14 pm
gan Mali
Oes 'na aps Cymraeg ar gael ogydd? Yn chwilio am rai ar gyfer iPod touch yn benodol.
Diolch:)

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2010 8:02 pm
gan Rhys
Ddim lot hyd y gwyddwn i:

Dr Cocos a Salwch Snobs

isteddfod

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2010 8:24 pm
gan Mali
Diolch Rhys ! Yn gweld fod 'na ganmoliaeth i'r un cyntaf , ac mi faswn wrth fy modd yn defnyddio'r un steddfod os baswn yn yr ardal. Da gweld fod 'na rai Cymraeg / dwyieithog ar gael ....er yn brin . Ond dim ond dechreuad ydi hyn siawns . 8)
Gyda llaw , pwy sy'n gyfrifol am greu aps ?

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2010 12:50 am
gan huwwaters
Mali a ddywedodd:Diolch Rhys ! Yn gweld fod 'na ganmoliaeth i'r un cyntaf , ac mi faswn wrth fy modd yn defnyddio'r un steddfod os baswn yn yr ardal. Da gweld fod 'na rai Cymraeg / dwyieithog ar gael ....er yn brin . Ond dim ond dechreuad ydi hyn siawns . 8)
Gyda llaw , pwy sy'n gyfrifol am greu aps ?


Pwy bynnag sydd isio rhoi'r ymdrech i'w gwneud. Rhaglenni i wneud be yn union ydych chi ar ôl?

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2010 5:44 pm
gan Duw
Dwi'n pori SmashingMagazine yn go aml a dês i ar draws hwn:

http://www.smashingmagazine.com/2009/08 ... plication/

Wylle bod e ddefnydd i chi tecis. $99 i ymaelodi ac angen Mac.

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2010 10:21 pm
gan Mali
huwwaters a ddywedodd:
Pwy bynnag sydd isio rhoi'r ymdrech i'w gwneud. Rhaglenni i wneud be yn union ydych chi ar ôl?


Dwi ddim yn wybodus iawn mae gen i ofn :wps: , ond meddwl o'n i fasa'n braf cael mwy o aps yn y Gymraeg. Wedi lawrlwytho nifer o rai Saesneg, a'r un dwi'n gwario mwyaf o amser arno ar hyn o bryd ydi'r 'Words with friends' ....math o gêm scrabble ydio. Gês i'r un am ddim i gychwyn , wedyn ar ôl laru efo'r hysbysebion , fe brynais o am $2.99 . Swm eitha bychan wir i feddwl gymaint o fwynhâd a geir o'r math yma o gêm , heb anghofio'r ymarfer ar gyfer yr ymenydd wrth gwrs . :lol:

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2010 10:32 pm
gan Mali
Duw a ddywedodd:Dwi'n pori SmashingMagazine yn go aml a dês i ar draws hwn:

http://www.smashingmagazine.com/2009/08 ... plication/

Wylle bod e ddefnydd i chi tecis. $99 i ymaelodi ac angen Mac.


Diddorol iawn! Diolch i ti am y linc. :D

Re: Aps Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 14 Hyd 2010 3:17 pm
gan cymro1170
Mi ydw i wedi creu dau App ar gyfer yr iPhone ac iPod touch

App Pethau Bychain ac App Hacio'r Iaith

Mae mwy ar y ffordd