Yn anffodus mae ein gweinydd wedi dileu ein holl ffeiliau trwy gamgymeriad, a doedd dim 'bacyp' gyda fi!
Er hyn mae'r gronfa ddata wordpress dal yn gyflawn o'r hyn gallaf weld. Dwi wedi gwneud copi cadw o hwn, a darganfod mae Wordpress 2.6 oedd yn rhedeg. Dwi wedi lawrlwytho ffeiliau wordpress 2.6 a'u uwchlwytho i'r gweinydd, wedi ychwanegu y manylion cronfa ddata yn wp_config ond yn anffodus dim lwc.
I ddechre ron i'n cael 'Server Error 500' Ar ol darllen bach ar y we, wnes i CHMOD 755 ar gyfer yr holl ffolderi a 644 ar gyfer yr holl ffeiliau, dal yr un problem. Wedyn wnes i chmod 755 i BOB ffolder a ffeil, a nawr does dim neges gwall mwyach, ond jyst sgrin blanc gwyn! Does dim syniad da fi beth aeth o'i le, na sut i ddatrys hyn.
Fan hyn mae'r wefan http://www.llanfihangel-ar-arth.com/wordpress/
Mae gyda fi'r gronfa ddata, sut felly mae cael wordpress nol i weithio?? :-s
ON. Diolch i Dafydd am yr awgrymiadau ar Twitter...