Problemau gyda Wordpress

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problemau gyda Wordpress

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Awst 2010 2:18 pm

Yn anffodus mae ein gweinydd wedi dileu ein holl ffeiliau trwy gamgymeriad, a doedd dim 'bacyp' gyda fi! :?

Er hyn mae'r gronfa ddata wordpress dal yn gyflawn o'r hyn gallaf weld. Dwi wedi gwneud copi cadw o hwn, a darganfod mae Wordpress 2.6 oedd yn rhedeg. Dwi wedi lawrlwytho ffeiliau wordpress 2.6 a'u uwchlwytho i'r gweinydd, wedi ychwanegu y manylion cronfa ddata yn wp_config ond yn anffodus dim lwc.

I ddechre ron i'n cael 'Server Error 500' Ar ol darllen bach ar y we, wnes i CHMOD 755 ar gyfer yr holl ffolderi a 644 ar gyfer yr holl ffeiliau, dal yr un problem. Wedyn wnes i chmod 755 i BOB ffolder a ffeil, a nawr does dim neges gwall mwyach, ond jyst sgrin blanc gwyn! Does dim syniad da fi beth aeth o'i le, na sut i ddatrys hyn.

Fan hyn mae'r wefan http://www.llanfihangel-ar-arth.com/wordpress/

Mae gyda fi'r gronfa ddata, sut felly mae cael wordpress nol i weithio?? :-s

ON. Diolch i Dafydd am yr awgrymiadau ar Twitter...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Problemau gyda Wordpress

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Awst 2010 2:39 pm

Wedi darganfod nawr bod http://www.llanfihangel-ar-arth.com/wordpress/wp-admin/ yn gweithio, a dwi'n gallu mynd tu ol i'r lleni, ond dim yn ymddangos ar yr ochr flaen :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Problemau gyda Wordpress

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 24 Awst 2010 2:52 pm

Oce, panic drosodd. Odd e'n wyn achos ron i heb ailosod plugin 'Events Calendar 3'. Wedi gwneud nawr, ac mae'n gweithio (i raddau)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Problemau gyda Wordpress

Postiogan dafydd » Maw 24 Awst 2010 2:58 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oce, panic drosodd. Odd e'n wyn achos ron i heb ailosod plugin 'Events Calendar 3'. Wedi gwneud nawr, ac mae'n gweithio (i raddau)

Gret.. well i ti uwchraddio i 3.0.1 os ti'n gallu (a fod unrhyw ategynnau yn gweithio). Wedyn gosod rhywbeth fel hyn Wordpress Backup?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Problemau gyda Wordpress

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 25 Awst 2010 8:27 am

Diolch Dafydd. Wedi uwchraddio a gosod yr ategyn. O ran cael y lluniau yn ol, be wnes i oedd defnyddio http://www.archive.org/ sy'n cadw cofnod o hen wefannau, gan gynnwys lluniau! Er mai 2008 yw'r diwedaraf sydd yno, wnes i lwyddo gael lot o'r lluniau yn ol 8)

Os hoffech chi weld sut oedd maes-e yn edrych yn y dyddiau a fu, ewch yma - http://web.archive.org/web/*/http://www.maes-e.com
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron