Helo!
'Dw i wrthi'n paratoi gwefan ddwyieithog, mor syml â phosibl, ar gyfer defnyddwyr sydd eisio diweddaru eitemau newyddion yn hollol ddi-drafferth. Mae'r rhan fwyaf o'r wefan yn dudalennau gwybodaeth, gydag un dudalen i ddangos newyddion.
Dyw'r defnyddwyr ddim eisiau fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahan, ond y medru i osod eitemau byrion dwyieithog.
Defnyddio Wordpress 3.0.1 ydw i, gyda themau eitha syml (Zenlite neu Twenty Ten 1.1). Trwy ddefnyddio'r atodyn "No comments on pages", does dim byd o gwbl yn ymddangos ynglŷn â sylwadau.
Trwy osod XAMPP ar fy ngyfrifiadur Linux (Ubuntu) gartref, mae gen i 'Amgylchedd Ddatblygu' lle galla i hacio'r côd heb dangos fy nghamgymeriadau'n gyhoeddus! NId arbenigwr Wordpress ydw i, o bell ffordd.
Galla i hacio ffeiliau .php y thema er mwyn newid eitemau fel "Home" i "Cartref / Home", ond mae nifer o eitemau yn dal yn Saesneg yn unig - a 'dw i'n amau y bydd rhaid hacio rhai o ffeiliau .php Wordpress ei hun i'w newid nhw.
Yr eitemau dan sylw yw'r dolenni canlynol:
Meta
Log In / Log Out
Site Admin
Archives
August 2010
Posted in..
Mae bwtwm SEARCH yn uniaith Saesneg hefyd.
Cwestiynau:
1) Oes rhywun wedi gwneud y ffasiwn beth o'r blaen? Ydw i am ail-ddefeisio'r olwyn? Os felly, oes adnoddau ar lein sy'n disgrifio'r broses? FYddai atodyn Wordpress yn wych!
2) Os na, lle mae'r ffeiliau sy'n rhoi enwau i'r dolenni uchod?
3) Sut mae newid y rhestr o archifau i ddangos Awst / August 2010, neu 8/2010?
Bydda i'n ddiolchgar iawn am unrhyw gyngor!