Gan fy mod yn hoffi fy nhechnoleg, ac yn buddsoddi'n gyson mewn pethau, rwyf wedi penderfynnu neidio i fyd yr e-lyfr ac wedi archebu Amazon Kindle. Rwy'n gobeithio y gwnaiff gyrraedd mewn rhyw pythefnos, ac felly rwyf wedi casglu nifer o e-lyfrau sydd ar gael am ddim yn barod.
Oes rhywun arall ag unrhyw brofiad o e-lyfrau? Beth yw eich barn chi am y peth? Byddai'n rhoi fy marn yn syth wedi agor a dechrau darllen, ag eto ar ol ychydig wythnosau pan fyddaf wedi arfer a hi ychydig yn well.