Tudalen 1 o 1

E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Mer 22 Medi 2010 7:08 pm
gan ceribethlem
Gan fy mod yn hoffi fy nhechnoleg, ac yn buddsoddi'n gyson mewn pethau, rwyf wedi penderfynnu neidio i fyd yr e-lyfr ac wedi archebu Amazon Kindle. Rwy'n gobeithio y gwnaiff gyrraedd mewn rhyw pythefnos, ac felly rwyf wedi casglu nifer o e-lyfrau sydd ar gael am ddim yn barod.
Oes rhywun arall ag unrhyw brofiad o e-lyfrau? Beth yw eich barn chi am y peth? Byddai'n rhoi fy marn yn syth wedi agor a dechrau darllen, ag eto ar ol ychydig wythnosau pan fyddaf wedi arfer a hi ychydig yn well.

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Sad 25 Medi 2010 8:58 pm
gan Duw
Cofia dy e-frechdan a dy e-goffi. :D

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Mer 29 Medi 2010 8:11 am
gan ceribethlem

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Sad 09 Hyd 2010 11:34 am
gan Glanyrafon
Mae 'da fi kindle hefyd ac rwy innau yn hapus iawn gydag e.

Oes modd cael llyfrau Cymraeg ar ei gyfer e? 'Swn i'n meddwl y byddai e-lyfrau yn ffordd hwylus o gyhoeddi llyfrau Cymraeg heb yr "overheads" arferol.

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Sad 09 Hyd 2010 2:32 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 5:34 pm
gan ceribethlem

Re: E-Lyfrau

PostioPostiwyd: Maw 19 Hyd 2010 9:59 pm
gan Glanyrafon
Diolch. Mae Calibre gyda fi.

Fawr o ddewis o lyfrau fan 'na mewn gwirionedd yn anffodus.

Oni fyddai modd ychwanegu ee llyfrau Daniel Owen sy, r'wy'n cymryd, m'as o hawlfraint i Project Gutenberg neu ei debyg? Am wn i nag y'n nhw mewn print felly na fyddai'n dwyn dim o gyhoeddwyr Cymraeg neu ddim byd felly.