Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg

Postiogan Rhodri » Sul 31 Hyd 2010 12:09 pm

Ydy creu bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg yn bosib? Hynny ydy, un wefan gyda cynnwys unigryw ddim nifer o wefannau bach sy'n amrywio mewn cynnwys. Oes engreifftiau o wefannau sy'n creu incwm call i'w pherchenog - perchnogion? Boed hynny drwy hysbysebu, pres drwy nifer fawr o hits neu codi tal aelodaeth. Chydig iawn dwin ddalld am adsense ac yn y blaen.
Ydy Golwg360 yn gwneud pres? Oedd pishyn.com yn broffidiol?
Does gin i ddim gymaint o ddidordeb yn yr ochor siop ar-lein o bethau ond a oes na un Gymraeg lwyddianus sydd ond yn gwneud busnes dros y we? Sadwrn.com?

Ta ai dyna pam nad oes na gymaint a hynny o wefannau Cymraeg difyr tu hwnt i flogiau unigolion? Mae gin i gywrain gyfrwys gynllwyn. Dyna pam dwi'n holi.
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg

Postiogan Duw » Sul 31 Hyd 2010 2:58 pm

Mae sawl ffordd o ennill arian o wefannau. Yr un mwyaf amlwg yw e-siop, ond dwyt ti ddim eisiau hyn. Gallet godi arian am 'wasanaeth' neu aelodaeth. Hefyd mae modd ennill arian o hysbysebu. O ran hysbysebu gallet ddefnyddio 'click-thru', gan gynnwys 'googleads', cylchoedd hysbysebu neu cynnal hysbysebion penodol fel roedd maes-e yn arfer gwneud. Ffordd arall o godi arian byddai gofyn am nodd, e.e. Cynulliad ac ati.

Ffordd arall yw defnyddio botwm 'donate' er mwyn derbyn rhoddion. Mae paypal yn cynnig y fath opsiwn.

Yn anffodus, mae codi arian trwy wefan uniaith 'Cymraeg' yn mynd i fod yn anodd. Nid oes ganddyn nhw'r un sail defnyddwyr. Posib ceid di 1000oedd ar y mwyaf.
Sawl person yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg? 700,000 ar y mwya? Sawl un o'r rheiny sy'n pori safleoedd Cymraeg ac sydd yn fodlon/gallu talu am bethau ar-lein? Faint o'r rheiny wedyn a fydd yn pori dy wefan yn y flwyddyn gyntaf? Rwyt ti lawr i niferoedd isel iawn. Am faint o amser bydd y wefan yn gallu cynnal rhyw 'critical mass' o ddefnyddwyr? Blwyddyn, dwy?

Mae gwefannau Saesneg/Rhyngwladol (aml-iaith) yn sicr o allu denu 1000000oedd.

Anodd iawn yw cystadlu y dyddie 'ma. Mae cymaint o wefannau ardderchog ar gael sy'n cynnig gwasanaethau/aelodaeth yn rhad ac am ddim. Ychydig iawn ohonom fyddai'n barod i dalu er mwyn ennill mynediad/defnyddio gwasanaeth. Byddai'n rhaid iddo fod yn rhywbeth arbennig.

Er mwyn gwneud bywoliaeth rwyt yn meddwl am £20,000+/flwyddyn? Annhebygol ond nid amhosib. Hefyd rhaid sicrhau dy fod yn cadw'r wefan yn gyfredol, neu bydd dy elw yn syrthio'n gyflym iawn ar ôl y cychwyn, hyd yn oed dy fod yn codi tâl tanysgrifio.

Yn fy marn i, mae llwyddiant gwefan codi arian yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys:

.galw
.perthnasedd - unigryw neu'n well na'r hyn sydd ar gael
.cost a gwerth am arian
.dyluniad (golwg/rhyngwyneb/rhyngweithio/SEO) proffesiynol - gall fod cost uchel yma
.gwesteiwr dibynadwy â chysylltiad graddfa uchel ('up-time')
.hysbysebu a marchnata (gall fod cost sylweddol i hyn) - gan gynnwys ranc o dan peiriannau chwilio
.pa mor gadarn yw dy fodel masnach
.cymdeithasol a chymorth (a oes fforwm/teclyn mofyn cymorth/system docyn/blog/modd cysylltu arall)
.system derbyn arian diogel (e.e. paypal) - mae hwn yn hanfodol i'w gael yn gywir - ti ddim eisiau cael dy lusgo trwy'r llysoedd am ryddhau manylion dy ddefnyddwyr!

Rwyt wedi defnyddio Golwg360 fel enghraifft. Yn bersonol, dwi'n meddwl ei fod yn eitha gwael - ac mae hwnna wedi derbyn miloedd ar ben miloedd mewn arian i'w sefydlu. A fyddwn yn fodlon talu am y fath wasanaeth? Na - yn sicr. A ydw i'n ei ddefnyddio? Ambell waith. maes-e.com - a oedd yn gwneud arian o hysbysebu - gofyn i Hedd. A fyddwn yn fodlon talu am y aelodaeth? Na. Os oedd maes-e yn codi arian am aelodaeth, byddai rhywun yn sicr o ddechrau 'maes-e amgen' yn rhad ac am ddim. pishyn.com - edrych fel ymosodiad arno - a ydy hyn yn dderbyniol i ddefnyddwyr os oeddent yn talu am wasanaeth?
sadwrn.com - dwyieithog - felly ddim yn cyfri fel gwefan Cymraeg - hefyd yn e-siop.

Sori, os oeddwn yn swnio'n negatif.
Dwi'n siwr bo sawl aelod arall ar y maes â gwell syniadau na minnau shwt.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg

Postiogan Rhodri » Sul 31 Hyd 2010 5:11 pm

Ma'n well gin i'r gwirionedd negatif na celwydd positif, felly diolch. Fel dwi di deud, chydig dwi'n ddeall am yr holl beth felly mae unrhyw wybodaeth neu farn o help mawr.

Ma'n ddigon tebyg y baswn i'n medru cael nodd i setio'r wefan i fyny a thalu costau eraill. Petai bob dim yn llwyddianus a bob dim wedi setio ac yn rhedeg fel watsh dwim yn siwr iawn os fyswn i'n gyfforddus efo dibynnu ar bres Cynulliad i dalu gweddill y ffordd e.e. yr [quote]Cefnogir Golwg Newydd gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru [quote] sydd ar waelod golwg360.com. Digon hawdd iddyn nhw benderfyny peidio gneud hynny yn y dyfodol am wn i dydy? A ma hynny yn f'ngadael i efo nhin yn yr awyr yn aros am gic.

Mi oedd y syniad oedd gen i yn cymryd ieithioedd (lleiafrifol) eraill i ystyriaeth, ond ma lojistics y peth yn rhemp gin i. Dyan pam oeddwn i angen gwybod be di'r siawns o neud on Gymraeg yn unig i ddechrau.

Fysa hanner incwm yn rwbath!
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg

Postiogan Duw » Sul 31 Hyd 2010 7:03 pm

Parthed ieithoedd lleiafrifol - swnio'n ddifyr. Bydd angen cymorth arnat os nag wyt yn meddu ar yr iaith. Gallet ofyn am gyfieithwyr a wylle geid di gymorth rhad/ddim. Os wyt yn meddwl mynd lawr y trywydd hwn, bydd angen meddwl ar y platfform rwyt yn defnyddio. A wyt am ddefnyddio rhywbeth fel Joomla/Joomfish neu rhyw system gwstwm? Os yr ail un, bydd angen sefydlu dy wefan mewn ffordd 'ryngwladol' ('i18n') er mwyn derbyn ffeiliau lleoliad ('l10n'). Ni fydd Google Translate yn dderbyniol! :winc:

Os nac oes cliw 'da ti am beth dwi'n sôn, gallet lawrlwytho ffeil iaith phpbb (phpbb.com). Dyma jest un ffordd o osod dull rhyngwladol.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron