Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg
Postiwyd:
Sul 31 Hyd 2010 12:09 pm
gan Rhodri
Ydy creu bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg yn bosib? Hynny ydy, un wefan gyda cynnwys unigryw ddim nifer o wefannau bach sy'n amrywio mewn cynnwys. Oes engreifftiau o wefannau sy'n creu incwm call i'w pherchenog - perchnogion? Boed hynny drwy hysbysebu, pres drwy nifer fawr o hits neu codi tal aelodaeth. Chydig iawn dwin ddalld am adsense ac yn y blaen.
Ydy Golwg360 yn gwneud pres? Oedd pishyn.com yn broffidiol?
Does gin i ddim gymaint o ddidordeb yn yr ochor siop ar-lein o bethau ond a oes na un Gymraeg lwyddianus sydd ond yn gwneud busnes dros y we? Sadwrn.com?
Ta ai dyna pam nad oes na gymaint a hynny o wefannau Cymraeg difyr tu hwnt i flogiau unigolion? Mae gin i gywrain gyfrwys gynllwyn. Dyna pam dwi'n holi.
Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg
Postiwyd:
Sul 31 Hyd 2010 2:58 pm
gan Duw
Mae sawl ffordd o ennill arian o wefannau. Yr un mwyaf amlwg yw e-siop, ond dwyt ti ddim eisiau hyn. Gallet godi arian am 'wasanaeth' neu aelodaeth. Hefyd mae modd ennill arian o hysbysebu. O ran hysbysebu gallet ddefnyddio 'click-thru', gan gynnwys 'googleads', cylchoedd hysbysebu neu cynnal hysbysebion penodol fel roedd maes-e yn arfer gwneud. Ffordd arall o godi arian byddai gofyn am nodd, e.e. Cynulliad ac ati.
Ffordd arall yw defnyddio botwm 'donate' er mwyn derbyn rhoddion. Mae paypal yn cynnig y fath opsiwn.
Yn anffodus, mae codi arian trwy wefan uniaith 'Cymraeg' yn mynd i fod yn anodd. Nid oes ganddyn nhw'r un sail defnyddwyr. Posib ceid di 1000oedd ar y mwyaf.
Sawl person yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg? 700,000 ar y mwya? Sawl un o'r rheiny sy'n pori safleoedd Cymraeg ac sydd yn fodlon/gallu talu am bethau ar-lein? Faint o'r rheiny wedyn a fydd yn pori dy wefan yn y flwyddyn gyntaf? Rwyt ti lawr i niferoedd isel iawn. Am faint o amser bydd y wefan yn gallu cynnal rhyw 'critical mass' o ddefnyddwyr? Blwyddyn, dwy?
Mae gwefannau Saesneg/Rhyngwladol (aml-iaith) yn sicr o allu denu 1000000oedd.
Anodd iawn yw cystadlu y dyddie 'ma. Mae cymaint o wefannau ardderchog ar gael sy'n cynnig gwasanaethau/aelodaeth yn rhad ac am ddim. Ychydig iawn ohonom fyddai'n barod i dalu er mwyn ennill mynediad/defnyddio gwasanaeth. Byddai'n rhaid iddo fod yn rhywbeth arbennig.
Er mwyn gwneud bywoliaeth rwyt yn meddwl am £20,000+/flwyddyn? Annhebygol ond nid amhosib. Hefyd rhaid sicrhau dy fod yn cadw'r wefan yn gyfredol, neu bydd dy elw yn syrthio'n gyflym iawn ar ôl y cychwyn, hyd yn oed dy fod yn codi tâl tanysgrifio.
Yn fy marn i, mae llwyddiant gwefan codi arian yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys:
.galw
.perthnasedd - unigryw neu'n well na'r hyn sydd ar gael
.cost a gwerth am arian
.dyluniad (golwg/rhyngwyneb/rhyngweithio/SEO) proffesiynol - gall fod cost uchel yma
.gwesteiwr dibynadwy â chysylltiad graddfa uchel ('up-time')
.hysbysebu a marchnata (gall fod cost sylweddol i hyn) - gan gynnwys ranc o dan peiriannau chwilio
.pa mor gadarn yw dy fodel masnach
.cymdeithasol a chymorth (a oes fforwm/teclyn mofyn cymorth/system docyn/blog/modd cysylltu arall)
.system derbyn arian diogel (e.e. paypal) - mae hwn yn hanfodol i'w gael yn gywir - ti ddim eisiau cael dy lusgo trwy'r llysoedd am ryddhau manylion dy ddefnyddwyr!
Rwyt wedi defnyddio Golwg360 fel enghraifft. Yn bersonol, dwi'n meddwl ei fod yn eitha gwael - ac mae hwnna wedi derbyn miloedd ar ben miloedd mewn arian i'w sefydlu. A fyddwn yn fodlon talu am y fath wasanaeth? Na - yn sicr. A ydw i'n ei ddefnyddio? Ambell waith. maes-e.com - a oedd yn gwneud arian o hysbysebu - gofyn i Hedd. A fyddwn yn fodlon talu am y aelodaeth? Na. Os oedd maes-e yn codi arian am aelodaeth, byddai rhywun yn sicr o ddechrau 'maes-e amgen' yn rhad ac am ddim. pishyn.com - edrych fel ymosodiad arno - a ydy hyn yn dderbyniol i ddefnyddwyr os oeddent yn talu am wasanaeth?
sadwrn.com - dwyieithog - felly ddim yn cyfri fel gwefan Cymraeg - hefyd yn e-siop.
Sori, os oeddwn yn swnio'n negatif.
Dwi'n siwr bo sawl aelod arall ar y maes â gwell syniadau na minnau shwt.
Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg
Postiwyd:
Sul 31 Hyd 2010 5:11 pm
gan Rhodri
Ma'n well gin i'r gwirionedd negatif na celwydd positif, felly diolch. Fel dwi di deud, chydig dwi'n ddeall am yr holl beth felly mae unrhyw wybodaeth neu farn o help mawr.
Ma'n ddigon tebyg y baswn i'n medru cael nodd i setio'r wefan i fyny a thalu costau eraill. Petai bob dim yn llwyddianus a bob dim wedi setio ac yn rhedeg fel watsh dwim yn siwr iawn os fyswn i'n gyfforddus efo dibynnu ar bres Cynulliad i dalu gweddill y ffordd e.e. yr [quote]Cefnogir Golwg Newydd gyda chymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Llyfrau Cymru [quote] sydd ar waelod golwg360.com. Digon hawdd iddyn nhw benderfyny peidio gneud hynny yn y dyfodol am wn i dydy? A ma hynny yn f'ngadael i efo nhin yn yr awyr yn aros am gic.
Mi oedd y syniad oedd gen i yn cymryd ieithioedd (lleiafrifol) eraill i ystyriaeth, ond ma lojistics y peth yn rhemp gin i. Dyan pam oeddwn i angen gwybod be di'r siawns o neud on Gymraeg yn unig i ddechrau.
Fysa hanner incwm yn rwbath!
Re: Gwneud bywoliaeth o redeg gwefan Gymraeg
Postiwyd:
Sul 31 Hyd 2010 7:03 pm
gan Duw
Parthed ieithoedd lleiafrifol - swnio'n ddifyr. Bydd angen cymorth arnat os nag wyt yn meddu ar yr iaith. Gallet ofyn am gyfieithwyr a wylle geid di gymorth rhad/ddim. Os wyt yn meddwl mynd lawr y trywydd hwn, bydd angen meddwl ar y platfform rwyt yn defnyddio. A wyt am ddefnyddio rhywbeth fel Joomla/Joomfish neu rhyw system gwstwm? Os yr ail un, bydd angen sefydlu dy wefan mewn ffordd 'ryngwladol' ('i18n') er mwyn derbyn ffeiliau lleoliad ('l10n'). Ni fydd Google Translate yn dderbyniol!
Os nac oes cliw 'da ti am beth dwi'n sôn, gallet lawrlwytho ffeil iaith phpbb (phpbb.com). Dyma jest un ffordd o osod dull rhyngwladol.