gan Duw » Sul 31 Hyd 2010 2:58 pm
Mae sawl ffordd o ennill arian o wefannau. Yr un mwyaf amlwg yw e-siop, ond dwyt ti ddim eisiau hyn. Gallet godi arian am 'wasanaeth' neu aelodaeth. Hefyd mae modd ennill arian o hysbysebu. O ran hysbysebu gallet ddefnyddio 'click-thru', gan gynnwys 'googleads', cylchoedd hysbysebu neu cynnal hysbysebion penodol fel roedd maes-e yn arfer gwneud. Ffordd arall o godi arian byddai gofyn am nodd, e.e. Cynulliad ac ati.
Ffordd arall yw defnyddio botwm 'donate' er mwyn derbyn rhoddion. Mae paypal yn cynnig y fath opsiwn.
Yn anffodus, mae codi arian trwy wefan uniaith 'Cymraeg' yn mynd i fod yn anodd. Nid oes ganddyn nhw'r un sail defnyddwyr. Posib ceid di 1000oedd ar y mwyaf.
Sawl person yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg? 700,000 ar y mwya? Sawl un o'r rheiny sy'n pori safleoedd Cymraeg ac sydd yn fodlon/gallu talu am bethau ar-lein? Faint o'r rheiny wedyn a fydd yn pori dy wefan yn y flwyddyn gyntaf? Rwyt ti lawr i niferoedd isel iawn. Am faint o amser bydd y wefan yn gallu cynnal rhyw 'critical mass' o ddefnyddwyr? Blwyddyn, dwy?
Mae gwefannau Saesneg/Rhyngwladol (aml-iaith) yn sicr o allu denu 1000000oedd.
Anodd iawn yw cystadlu y dyddie 'ma. Mae cymaint o wefannau ardderchog ar gael sy'n cynnig gwasanaethau/aelodaeth yn rhad ac am ddim. Ychydig iawn ohonom fyddai'n barod i dalu er mwyn ennill mynediad/defnyddio gwasanaeth. Byddai'n rhaid iddo fod yn rhywbeth arbennig.
Er mwyn gwneud bywoliaeth rwyt yn meddwl am £20,000+/flwyddyn? Annhebygol ond nid amhosib. Hefyd rhaid sicrhau dy fod yn cadw'r wefan yn gyfredol, neu bydd dy elw yn syrthio'n gyflym iawn ar ôl y cychwyn, hyd yn oed dy fod yn codi tâl tanysgrifio.
Yn fy marn i, mae llwyddiant gwefan codi arian yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys:
.galw
.perthnasedd - unigryw neu'n well na'r hyn sydd ar gael
.cost a gwerth am arian
.dyluniad (golwg/rhyngwyneb/rhyngweithio/SEO) proffesiynol - gall fod cost uchel yma
.gwesteiwr dibynadwy â chysylltiad graddfa uchel ('up-time')
.hysbysebu a marchnata (gall fod cost sylweddol i hyn) - gan gynnwys ranc o dan peiriannau chwilio
.pa mor gadarn yw dy fodel masnach
.cymdeithasol a chymorth (a oes fforwm/teclyn mofyn cymorth/system docyn/blog/modd cysylltu arall)
.system derbyn arian diogel (e.e. paypal) - mae hwn yn hanfodol i'w gael yn gywir - ti ddim eisiau cael dy lusgo trwy'r llysoedd am ryddhau manylion dy ddefnyddwyr!
Rwyt wedi defnyddio Golwg360 fel enghraifft. Yn bersonol, dwi'n meddwl ei fod yn eitha gwael - ac mae hwnna wedi derbyn miloedd ar ben miloedd mewn arian i'w sefydlu. A fyddwn yn fodlon talu am y fath wasanaeth? Na - yn sicr. A ydw i'n ei ddefnyddio? Ambell waith. maes-e.com - a oedd yn gwneud arian o hysbysebu - gofyn i Hedd. A fyddwn yn fodlon talu am y aelodaeth? Na. Os oedd maes-e yn codi arian am aelodaeth, byddai rhywun yn sicr o ddechrau 'maes-e amgen' yn rhad ac am ddim. pishyn.com - edrych fel ymosodiad arno - a ydy hyn yn dderbyniol i ddefnyddwyr os oeddent yn talu am wasanaeth?
sadwrn.com - dwyieithog - felly ddim yn cyfri fel gwefan Cymraeg - hefyd yn e-siop.
Sori, os oeddwn yn swnio'n negatif.
Dwi'n siwr bo sawl aelod arall ar y maes â gwell syniadau na minnau shwt.