Tudalen 1 o 1

Sillafydd Microsoft XP ac Windows 7

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 4:22 pm
gan xxglennxx
Shwmae, bawb!?

Rwy' newydd brynu gliniadur sy'n rhedeg Windows 7, fersiwn 64-did. Rwy' wedi lawrlwytho sillafydd Microsoft XP, sy'n gweithio'n iawn ar fy un XP a Visa, ond nid yw'n weld i'w weithio ar fy un 7. Pan rwy'n newid y peth yn ôl i Saesneg DU, mae'r sgwigls bychain cochion yn dangos, ond gyda'r Gymraeg (er bod y tic bach ABC yn dangos yn y ddewislen), nid yw'n gweithio.

Ydy unrhyw un arall wedi cael yr un broblem neu'n gwybod ateb iddo?

Diolch,

Glenn

Re: Sillafydd Microsoft XP ac Windows 7

PostioPostiwyd: Sad 19 Chw 2011 11:16 am
gan gareth_pwllheli
Son am OFFICE ac nid Windows wyt ti mae'n siwr.
Mae'n bosib gosod sillafydd XP i weithio gyda fersiynau mwy diweddar o Office (2007 gen i)

Re: Sillafydd Microsoft XP ac Windows 7

PostioPostiwyd: Sul 20 Chw 2011 5:02 pm
gan xxglennxx
gareth_pwllheli a ddywedodd:Son am OFFICE ac nid Windows wyt ti mae'n siwr.
Mae'n bosib gosod sillafydd XP i weithio gyda fersiynau mwy diweddar o Office (2007 gen i)


Ym, nac ydw. Windows Office XP ac Windows 7 rwy'n sôn amdanynt hwy. Os nad ydw i'n datrys y broblem, wedyn defnyddiaf Office yn ei le, ond diolch am eich sylwadau.