Tudalen 1 o 1

Trosi ffeiliau

PostioPostiwyd: Sul 01 Mai 2011 10:18 am
gan Hogyn o Rachub
Helo 'na, dwi'n ceisio trosi ffeiliau WMA yn rhai MP3 er mwyn eu rhoi ar fy ffôn ar y funud ond dwi methu dod o hyd i raglen dda am ddim sy'n gwneud hyn ar Windows Vista, wedi cael problemau gyda phob un. Oes rhywun yn gallu awgrymu un da sy'n gweithio?

Diolch!

Re: Trosi ffeiliau

PostioPostiwyd: Sul 01 Mai 2011 12:24 pm
gan bartiddu
XP sgen i, ond ma'r rhaglen bach 'WAV to mp3 Encoder' yn gweithio'n dda ac yn syml. Llusgo'r trac i mewn i ffenest y rhaglen a chlicio 'encode' ayb.
Dim yn gofio lle ges i fe on yn ol y rhaglen http://www.mthreedev.com/ yw'r gwefan i'w lawrlwytho.
Pob lwc!

Diawl wedi meddwl, falle bydd hwn mwy addas :) :- http://www.dvdvideosoft.com/products/dv ... verter.htm

Re: Trosi ffeiliau

PostioPostiwyd: Sul 01 Mai 2011 5:53 pm
gan ceribethlem
Hwn fi'n defnyddio. Mae'n gweithio'n reit dda ar y cyfan.

Re: Trosi ffeiliau

PostioPostiwyd: Sul 01 Mai 2011 6:54 pm
gan Cymrobalch
Ac os ti moen rhywbeth côd agored, ma wastod VLC. Siwr iawn ma ffor' o neud hwn fel batch sgript ond dwi'm yn expert yn y Windows.