Tudalen 1 o 1

Grooveshark - Cyfieithiad

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2011 7:31 pm
gan Duw
Dwi newydd wedi gorffen cyfieithu Grooveshark - y brif raglen, a'r apps ar gyfer Android ac iPhone (jailbreak). Bydde'n grêt os oedd rhywun yn gallu bwrw golwg dros y gwaith cyn ei fod yn mynd yn fyw.

Gwefan Grooveshark: http://grooveshark.com/#/

Rhaglen gyfieithu Grooveshark: http://translate.grooveshark.com/cy/

Dwi wedi gorfod 'creu' cwpwl o eiriau am fy mod wedi methu â dod o hyd iddyn nhw - mudanu ('to mute'), ffefrynnu ('favorited'). Awgrymiadau?

O, ger llaw, rhaglen chwarae cerddoriaeth o'ch dewis yw hwn, yn debyg iawn i Spotify. Nawr bo Spotify wedi penderfynu peidio â gadael mynediad rhad ac am ddim bellach, mae Grooveshark yn edrych fel dewis newydd.

Re: Grooveshark - Cyfieithiad

PostioPostiwyd: Sad 21 Mai 2011 3:07 pm
gan Duw
Diolch i Llusi am yr awgrymiadau. Wedi derbyn 90%+ ohonyn nhw!

Gwnes i drio beidio â chyfieithu'n lythrennol er mwyn osgoi 'rhedeg allan o le'. Felly, maddau i mi am beidio â derbyn rhai o'r awgrymiadau er eu bod yn cyfieithiadau llythrennol.

Yn anffodus, oherwydd fy mod wedi prosesu'r holl awgrymiadau, maen nhw wedi diflannu. Yr un olaf dwi'n cofio gwneud oedd 'Trefnu gan' -> 'Trefnu yn ôl'