Dwi newydd wedi gorffen cyfieithu Grooveshark - y brif raglen, a'r apps ar gyfer Android ac iPhone (jailbreak). Bydde'n grêt os oedd rhywun yn gallu bwrw golwg dros y gwaith cyn ei fod yn mynd yn fyw.
Gwefan Grooveshark: http://grooveshark.com/#/
Rhaglen gyfieithu Grooveshark: http://translate.grooveshark.com/cy/
Dwi wedi gorfod 'creu' cwpwl o eiriau am fy mod wedi methu â dod o hyd iddyn nhw - mudanu ('to mute'), ffefrynnu ('favorited'). Awgrymiadau?
O, ger llaw, rhaglen chwarae cerddoriaeth o'ch dewis yw hwn, yn debyg iawn i Spotify. Nawr bo Spotify wedi penderfynu peidio â gadael mynediad rhad ac am ddim bellach, mae Grooveshark yn edrych fel dewis newydd.