Tudalen 1 o 1

Microsoft Outlook 2010 yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2011 12:21 pm
gan Kelv
Oes rhywun yn defnyddio Microsoft Outlook 2010 (neu fersiwn hŷn) yn Gymraeg?

Mae cyfrifiadur newydd 'da fi gyda Microsoft Office a dwi wedi gosod y Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg. Mae popeth yn edrych yn neis iawn, ond yn Outlook pan dwi'n dewis Ateb neu Ymlaen, mae penawdau'r e-bost yn dal i weud "From", "Sent", "To" a "Subject" yn lle "Oddi wrth", "Anfonwyd", "At" a "Pwnc", er gwaetha i fi ddad-dicio'r opsiwn "Defnyddio Saesneg ar gyfer penawdau negeseuon ar atebion a negeseuon a anfonir ymlaen ac ar gyfer hysbysiadau anfon ymlaen." Er hynny, mae'r dyddiad yn Gymraeg, ac mae teitl yr e-bost yn dechrau gyda "ATB/RE:" neu "YML/FW:". Dwi'n cofio bod yn arfer gweithio'n iawn yn Outlook Express.

Mae 'na rai pethau eraill sy ddim wedi cael eu cyfieithu, fel y "People Pane".

Oes modd disodli "From", "To", ayyb gydag "Oddi wrth", "At" yn awtomatig, neu oes rhaid i fi newid y geiriau ymhob e-bost fy hunan? Diolch! :)