Erbyn hyn mae Mandrake Linux 9.2 wedi ei ryddhau. Mae modd cael gafael ar gopi ohono ar flaen rhifyn Rhagfyr 2003 o Linux Format LXF47. Os oes gennych gysylltiad cyflym bydd modd cael gafael ar y ffeiliau ISO i'w llosgi i CD cyn hir a phecynnau masnachol erbyn diwedd y mis. Mae'r cyfan i'w weld ar safle http://www.mandrakelinux.com.
Mae’r rhyddhad ar gael yn Gymraeg ac yn cynnwys Gnome 2.4 Cymraeg. Mae modd trosi'r porwr gwe Gwe-lywiwr i'r Gymraeg drwy ymweld â safle http://www.gwelywiwr.org.
Wrth osod Mandrake Linux ar eich cyfrifiadur dewiswch Europe>Cymraeg ar y sgrîn Language. Bydd gweddill y rhaglen osod a meddalwedd cynhenid Mandrake yn ymddangos yn Gymraeg.
Y gobaith ar gyfer y dyfodol fydd cynyddu'r swm o Gymraeg ar gyfer y fersiynau gwahanol o Linux fel bo modd gweithio o fewn awyrgylch cyfrifiadurol Cymreig.
Bydd gwybodaeth pellach i'w gael oddi ar safle http://www.meddal.org.uk cyn bo hir...