MEDDALWEDD CYNLLUNIO GWEFAN, DYLUNIO A CHYHOEDDI!

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

MEDDALWEDD CYNLLUNIO GWEFAN, DYLUNIO A CHYHOEDDI!

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 26 Ion 2003 12:38 pm

Dwi di dysgu fy hyn i gynllunio tudalennau gwefan (ER DDIM YN DDA IAWN AR HYN O BRYD), ac ar hyn o bryd fi'n defnyddio Dreamweaver. enghraifft dwi wedi ei wneud yw http://www.airwales.co.uk . Oes rhywyn yn gwybod am gyrsie elli di ei gymryd er mwyn dysgu mwy am Dreamweaver? Dyw'r tutorials ddim yn dda iawn yn fy marn i.

Yn ogystal pa feddalwedd i greu a newid delweddau yw'r gore? Dwi di clywed am photoshop ond heb cael llawer o hwyl gyda fe hyd yn hyn. Oes unrhyw gyrsiau photoshop ar gael? Oes meddalwedd gwell ar gael?

Beth am feddalwedd cyhoeddi. Fi di clywed mae Quark yw'r gorau. Faint mae'n costio? Oes rhywbeth gwell? Oes cyrsiau ar gael?

Gwd Nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr

Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan huwwaters » Sul 26 Ion 2003 12:56 pm

Wel, dwi'n defnyddio FrontPage am ei fod yn hawdd i ddefnyddio, yn gallu gwneud pethau'n gyflym ac oherwydd fy mod wedi dod i arfer efow. Cyn i mi cael gafael ar unrhyw olygydd wnes i ddysgu y rhanfwyaf o HTML oddi ar wefannau ar y rhyngrwyd ac arbrofi ar Geocities. http://www.geocities.com/huw_waters

I wneud delweddau dwi'n defnyddio Macromedia Fireworks, oherwydd yr un rhesymau eto. Hawdd i'w ddefnyddio ac wedi dod i arfer ei ddefnyddio.

Ar gyfer wneud dipyn o PHP dwi'n defnyddio PHPEdit.

Dylai Illustrator fod yn un dda am gyhoeddi.

http://www.spookey.co.uk/

Hwyl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Sul 26 Ion 2003 1:55 pm

Dw i wedi defnyddio Dreamweaver ond ffeindiais i fe llawer rhy gymhleth am beth o'n i am wneud felly dysgais i sut i wneud côd gan law. Mae'n hawdd iawn, does dim rhaid prynu meddalwedd costus (i gyd sydd angen yw golygydd testun a phorwr we). Triais i Frontpage unwaith ond mae'n clynci ofnadwy, ac yn defnyddio côd o eiddio MS sy ddim yn safonol o gwbl (felly yn creu problemau i ymwelwyr sy ddim yn defnyddio porwyr MS).

Y tiwtorial gorau ar gyfer dysgu peth am HTML, yn fy marn i, yw yr un gan Lance Arthur. Dw i hoff iawn o ei steil, ond dydy pawb ddim. Paid poeni, mae digon o ddewis.

Y problem gyda chyrsiau traddodiadol (h.y. mewn dosbarthiadau) am bethau cyfrifiadurol yw bod rhaid i'r tiwtor symud ar gyflymdra y pobl arafa yn y dosbarth, oni bai bod graddfa tiwtor:myfyriwr yn isel iawn.

Prif problem gyda Photoshop yw'r pris. Mae 'na ffyrdd rownd y problem hon, wrth gwrs, ond dw i ddim yn mynd i sôn amdanyn nhw ar wefan gyhoeddus fel hyn ;-) Os oes rhaid i ti dalu am rywbeth, mae opsiynau eraill - ro'n i'n defnyddio Paintshop Pro ar y PC, ac oedd hynny yn iawn i beth o'n i am wneud. Ar y Mac, dw i'n defnyddio'r rhaglen arlunio bog standard a ddaeth gyda'r sganydd.

Wrth gwrs, mae'r wefan hon a Morfablog yn defnyddio patrymluniau wedi'u cynllunio gan rywun arall - ond wnes i wefan fach hon gyda Editpad ar y PC.

Dw i'n defnyddio Fetch ftp (am ddim i fyfyrwyr) ar y Mac a CuteFTP ar y PC.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Di-Angen » Sul 26 Ion 2003 2:09 pm

Dwi'n tueddu i ddefnyddio Dreamweaver MX ar gyfer y first design o unrhyw safle, ac wedyn jyst yn newid/datblygu gyda unrhyw text editor m(dwi'n defnyddio UltraEdit).

Dwi'n hoffi tutorials http://www.w3schools.com, a mae yna filoedd o tutorials ar gyfer gwneud pethau arbennig, ond yn fy mhrofiad i, dysgais popeth drwy edrych ar cod safleoedd erailll. Mae Dreamweaver MX hefyd gyda functions hawdd ar gyfer creu database-driven website, ee gyda ASP, PHP neu JSP, ond mae'r cod mae'n creu yn amlach yn fwy cymhleth na beth sydd angen.

Mae fy safle wedi ei greu gyda PHP a XHTML - heblaw am greu ychydig o graphics gyda Paint Shop Pro, a'r design mewn Dreamweaver, popeth wedi ei wneud gyda text editor a tutorials.
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan huwwaters » Sul 26 Ion 2003 2:27 pm

Dwi'n defnyddio Smart FTP http://www.smartftp.com/ sydd am ddim, i fynylwytho ffeiliau i'r wê.

Rhywbeth na wnaeth i ddim yn eglur yw, fy mod yn defnyddio FrontPage i wneud y côd yn gyflym ac wedyn yn ei werthuso trwy gwefan W3 Consortiwm http://www.w3.com, sydd efo gwerthuswyr ar gyfer CSS, HTML, XML a popeth arall.

Un peth sy'n fy mwydro yw fersiynau cynnar Netscape a Mozilla 1.0. tydyn nhw ddim yn gallu dallt gwerthoedd mewn canran ar gyfer uchder tablau a celloedd. http://huwwaters.wz.cz/rhp/

Hwyl
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan nicdafis » Sul 26 Ion 2003 3:36 pm

Anghofiais i sôn am Zeldman ac A List Apart, ysbrydoliaeth a chyngor i gynllunwyr gwefanau wannabe a fel arall.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Nionyn » Maw 18 Maw 2003 7:22 pm

huwwaters a ddywedodd:Rhywbeth na wnaeth i ddim yn eglur yw, fy mod yn defnyddio FrontPage i wneud y côd yn gyflym ac wedyn yn ei werthuso trwy gwefan W3 Consortiwm http://www.w3.com, sydd efo gwerthuswyr ar gyfer CSS, HTML, XML a popeth arall.

Dwi'n meddwl mai'r safle yma wyt ti'n feddwl.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr

Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron