Dw i wedi defnyddio Dreamweaver ond ffeindiais i fe llawer rhy gymhleth am beth o'n i am wneud felly dysgais i sut i wneud côd gan law. Mae'n hawdd iawn, does dim rhaid prynu meddalwedd costus (i gyd sydd angen yw golygydd testun a phorwr we). Triais i Frontpage unwaith ond mae'n clynci ofnadwy, ac yn defnyddio côd o eiddio MS sy ddim yn safonol o gwbl (felly yn creu problemau i ymwelwyr sy ddim yn defnyddio porwyr MS).
Y tiwtorial gorau ar gyfer dysgu peth am HTML, yn fy marn i, yw yr un gan Lance Arthur. Dw i hoff iawn o ei steil, ond dydy pawb ddim. Paid poeni, mae digon o ddewis.
Y problem gyda chyrsiau traddodiadol (h.y. mewn dosbarthiadau) am bethau cyfrifiadurol yw bod rhaid i'r tiwtor symud ar gyflymdra y pobl arafa yn y dosbarth, oni bai bod graddfa tiwtor:myfyriwr yn isel iawn.
Prif problem gyda Photoshop yw'r pris. Mae 'na ffyrdd rownd y problem hon, wrth gwrs, ond dw i ddim yn mynd i sôn amdanyn nhw ar wefan gyhoeddus fel hyn
Os oes rhaid i ti dalu am rywbeth, mae opsiynau eraill - ro'n i'n defnyddio Paintshop Pro ar y PC, ac oedd hynny yn iawn i beth o'n i am wneud. Ar y Mac, dw i'n defnyddio'r rhaglen arlunio bog standard a ddaeth gyda'r sganydd.
Wrth gwrs, mae'r wefan hon a Morfablog yn defnyddio patrymluniau wedi'u cynllunio gan rywun arall - ond wnes i wefan fach hon gyda Editpad ar y PC.
Dw i'n defnyddio Fetch ftp (am ddim i fyfyrwyr) ar y Mac a CuteFTP ar y PC.