Llywio'r Llygoden yn Aberystwyth
A ydych chi'n adnabod rhywun sydd erioed wedi cyffwrdd â chyfrifiadur neu sydd heb gael fawr o lwc?
Bydd gweithdai Cymraeg yn cael eu cynnal yng Ngwesty'r Marine yn Aberystwyth ar 14, 15 a 16 o Ionawr (mae rhai Saesneg ar gael hefyd) a byddant yn cael eu cynnal mewn llefydd amrywiol eraill yn cynnwys Llandrindod, y Drenewydd a Dolgellau yn ddiweddarach.
Bydd cyfle i ddysgu
* sut mae dechrau'r peiriant
* defnyddio'r llygoden
* mynd ar y Rhyngrwyd
* anfon e-byst
* sut y gall y Rhyngrwyd eu helpu nhw
* sut mae siopa ar-lein ac archebu gwyliau
Os oes gan aelod o'ch teulu chi neu ffrind ddiddordeb (dim ots pa oedran),
gallant alw Cyswllt Dysgu (Learndirect) am fwy o fanylion ac i fwcio lle am
ddim ar 0800 100 900.
Plis pasiwch y neges ymlaen!!
Gobeithio bydden nhw'n dysgu pobl sut i fywiogi cyfri maes-e yr un pryd