Nai postio hwn yn fama. Dwi rili rili rili yn ysu am gael ei chwarae!
Pro Evolution Soccer 3. Ma'r cyfrifiadur yn cyrraedd y sbecs yn hawdd a dwi di disablo auto protect ac internet security ar norton antivirus ond ma fel dal yn fwy slo na Brynley Williams!
Ar hyn o bryd diom yn bosib chwarae'r peth mae o mor slo. Swn i'n meddwl mai jest gem gach di o ond gath o 97% yn PC Gamer felly dwi'n gweld hynna'n anodd coelio.
Dwi'n gwbod ddylwn i di prynnu'r fersiwn PS2 ond oni'n meddwl fydder fersiwn PC yn well ac roedd o £10 yn rhatach!
Help - Aled?