gan nicdafis » Sad 03 Ion 2004 8:39 am
Mae Norton yn wneud y job (am wn i) ond mae'n gostus ac mae rhaid i ti gadw lan gyda'r diweddariadau. Mae sawl un ar gael am ddim. AVG o'n i'n arfer defnyddio (cyn i mi gymryd cyngor Barbarella a phrynu Macafal). Cofia nad oes pwynt defnyddio unrhyw meddalwedd wrth-ffeirus os nad wyt ti'n wneud yr ypdêts yn gyson.
Cwestiwn nesa yw, pa feddalwedd gwe wyt ti'n defnyddio? Mae rhan helaeth o ffeirusys, trojans, worms ac yn y blaen yn cael eu cynllunio i ymosod ar feddalwedd Microsoft. Cei di osgoi llawer o drafferth gan beidio defnyddio Internet Explorer ac Outlook Express. Mae digon o opsiynau ar gael, i'r PC a'r Macintosh. Dw i'n defnyddio Firebird fel fy mhrif borwr a Thunderbird ar gyfer ebost. Mae Mozilla yn wneud y ddwy swydd. Mae bob un o'r rhain ar gael yn y Gymraeg (dyw F-bird a T-bird i'r Mac ddim eto, ond dw i'n siwr eu bod nhw ar y gweill). Opsiynau eraill yn cynnwys Opera (porwr) a Eudora (e-bost).