I chi'r bobl sy'n dal i fyw ym myd Microsoft ac sy ddim yn deall pam mae pobl lletchwith fel fi yn cwyno cymaint am bethau fel hyn, dychmygwch sut fyddech chi'n teimlo 'sech chi'n derbyn ebost sy'n dweud "Rydym yn atodi’r ffurflen aelodaeth i chi ei phrintio, ei llenwi a’i dychwelyd atom." ac wedyn ffeindio bod y ffeil yn un Appleworks, sy ddim yn ddarllenadwy ar PC Windows. Fyddech chi'n fodlon cymryd yr ail opsiwn: "Gallwch hefyd ofyn am ffurflen drwy'r post"?
(Mae'r dyfyniadau uchod o ebost ces i y bore 'ma, ond oedd y ffurflen yn Word doc, nid Appleworks, wrth gwrs.)
Cyn i mi gael Open Office doedd dim dewis 'da fi ond i ofyn i'r person a ofynodd y ffeil i'w ail-anfon mewn fformat agored. 9 tro mas o 10, byddai hynny yn golygu esbonio i berson sut i ddefnyddio eu cyfrifiadur eu hunain. Yn aml iawn doedd dim byd yn yr atodiad gwreiddiol na fydden wedi ffito i mewn i gorff yr ebost.
Felly, o'r diwedd, dw i wedi wneud beth dylwn i fod wedi wneud dwy flynedd yn ôl, a chreu (wel, cyfieithu) llythyr parod sy'n esbonio pam mae atodiadau Word yn waith y diafol, a sut i drawsffurfio ffeil Word i fformat sy'n ddarllenadwy i bawb. Dyma'r testun, wedi addasu o <a href="http://www.gnu.org/philosophy/no-word-attachments.html">fan hyn</a>. Croeso i unrhywun arall ei ddefnyddio, addasu, <b>cywiro</b> neu esbonio wrtha i pam ddylwn i ymuno â'r byd go iawn ac addoli wrth allor Bill Gates (gan ddefnyddio <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=4033">dadl Mr. Llosgfynydd</a> fel patrymlun, efallai? )
Pwnc: Methu agor eich atodiad a ddywedodd:
Anfonoch chi'r atodiad fel ffeil Microsoft Word, fformat perchenogol a chyfrinachol, felly mae'n anodd i mi ei ddarllen. Os anfonwch chi ffeil testun plein, HTML neu PDF, bydda i'n ei ddarllen.
Mae dosbarthu dogfennau yn fformat Word yn wneud drwg i chi ac i eraill. Na allwch fod yn sicr sut edrychan nhw pe bai'r derbynydd yn defnyddio fersiwn wahanol o Word i'w gwylio; mae'n bosibl na fyddan nhw'n gweithio o gwbl.
Mae derbyn atodiadau Word yn ddrwg i chi oherwydd y gallan nhw gario feirysau (gweler http://www.viruslist.com/eng/viruslist.html?id=7). Mae anfon atodiadau Word yn ddrwg i chi, oherwydd y tebygrwydd y bydd y ddogfen yn cynnwys gwybodaeth guddiedig, sydd yn rhoi i'r rhai sy'n gallu ei darllen fanylion am weithgareddau ac hunaniaeth yr awdur (sef, chi, efallai). Mae'n bosibl bod testun sydd wedi'i "ddileu" yn dal i fod yn ddarllenadwy, er enghraifft. Gweler
http://news.bbc.co.uk/2/hi/technology/3154479.stm am fwy o wybodaeth.
Ond uwchben popeth, gan anfon dogfennau Word yr ydych yn rhoi pwysau ar y rhai sydd eu derbyn i ddefnyddio meddalwedd Microsoft ac yn cwtogi ar eu rhyddhad i wneud dewis arall. I bob diben, yr ydych yn atgyfnerthu monopoli Microsoft. Y mae'r pwysau hwn yn faen rhwystr i fabwysiad ehangach o feddalwedd rhydd ac agored. A fyddech chi, os gwelwch yn dda, ail-ystyried defnyddio fformat MS Word wrth gyfathrebu â phobl eraill?
Mae'n hawdd iawn i ddefnyddio Word i drawsffurfio'r ffeil hwn i fformat HTML. Agorwch y ddogfen fel arfer, rhoi clec ar File, wedyn Save As, ac yn y blwch Save As Type ar waelod y bocs deialog, dewiswch 'HTML Document' neu 'Web Page'. Rhowch glec ar Save. Gallwch chi atodi'r ddogfen HTML newydd yn lle eich dogfen Word gwreiddiol.
I droi'r ddogfen yn destun plein, dilynwch yr un cyfeiriadau, ond yn lle dewis 'HTML Document', dewiswch 'Text Only' neu 'Text Document' fel fformat yn y blwch Save As Type.
Mae'n bosibl y bydd rhaglen ar eich cyfrifiadur sy'n gallu trawsffurfio'r ddogfen i fformat PDF. Dewiswch File => Print. Sgroliwch trwy'r argraffyddion sydd ar gael a dewiswch 'PDF converter' (neu rywbeth tebyg). Rhowch glec ar y botwm 'Print' a dodi enw i'r ffeil PDF pan ofynnir i chi.
Diolch yn fawr iawn,
Nic
--
Nic Dafis, Maes-y-morfa, Llangrannog
http://morfablog.com
http://maes-e.com