dwi fod yn gweithio, ddim yn mwydro yn maes e, ond falle allith rhywun yn helpu i? dwi ddim yn deall cyfrifiaduron!
ma rhywun wedi anfon gwaith cyfieithu i fi ar fformat pdf. dwi'n gallu'i agor e'n iawn (acrobat reader), ond gan mai poster dwyieithog fydd e, dwi angen newid pethe ar y ffeil (=editio). oes na ffordd o neud hyn? mae rwbeth yn dweud wrthai bod mai dim ond agor ffeils mae 'acrobat reader', so oes na rwbeth allai neud heb brynu 'acrobat writer' neu be bynnag?!
falle ddylwn i anfon ebost tebyg i un nic, yn deud "dydy fy nghyfrifiadur i ddim yn golygu ffeiliau pdf, a wnewch chi anfon gwaith yn fformat microsoft word o hyn ymlaen os gwelwch yn dda?"