gan Al Jeek » Maw 13 Ion 2004 11:32 pm
Mae'n debygol iawn y bydd o am ddim os mae gen ti Windows XP yn barod, ac yn dod fel rhan o Windows XP a Office XP yn y dyfodol. Debyg fydda chdi'n ei lawr lwytho o wefan microsoft pan ddaw o allan. Fydd dim angen talu mwy am y cynhyrch na mae unrhyw wlad arall a iaith ei hun yn gwneud.
Y peth pwysig i nodi yw y bydd hin debygol iawn (dwi bron 100% yn siwr) na fydd hi ar gael i unrhyw fersiwn blaenorol o Windows neu Office, jyst XP a unrhyw feddalwedd sydd i ddod gan Microsoft.
Felly os mae gen ti fersiwn blaenorol o Windows neu Office, bydd rhaid uwchraddio i XP i gael o'n Gymraeg (sy'n golygu $$$ i Microsoft).