Band eang di-wifr yng Nghaerdydd

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Band eang di-wifr yng Nghaerdydd

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 21 Chw 2003 5:20 pm

:?:

Os rhywun gyda gwybodaeth am y cynllyn hyn? O beth dwi'n deall mae'n cael ei rhedeg gan gwmni yn y ddinas, sy'n codi £100 am ei setio fyny, ac yna mae am ddim. Ond ym mha ardaloedd o Gaerdydd mae'r gwasanaeth hyn ar gael?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan nicdafis » Gwe 21 Chw 2003 5:45 pm

<a href="http://www.arwain.net/arwain.htm">arwain.net</a> - mae'n edrych yn dda.

Llangrannog nesa!
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Gwe 21 Chw 2003 6:27 pm

Wwwww! Wi-Fi. 802.11g fydd yr un buddugol yn y diwedd.

Ddaru nhw peilotio'r system yma ym Methesda. Creuodd S4C raglen amdano wedi ei alw'n 'y llwybyr i'r e-fro' neu rhywbeth. Dwi'n gobeithio gosod yr un fath o system i fyny yn fy nhy. yn rhedeg ar 802.11b.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mihangel Macintosh » Sad 22 Chw 2003 1:46 am

nicdafis a ddywedodd:<a href="http://www.arwain.net/arwain.htm">arwain.net</a> - mae'n edrych yn dda. Llangrannog nesa!


Diolch Nic :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Caerdydd, Llangrannog - y byd

Postiogan Waen » Maw 04 Maw 2003 1:15 am

Os tasa pawb yn cymeryd y technoleg yma ymlaen fuasa 'na rhwydwaith newydd yn bodoli, h.y. haen arall fel y rhyngrwyd 'newydd', ond heb BT a weddill y telco's :!:

meddylia os tasa pawb yn talu £150 am y 'kit" yn lle talu 12x£14 y mis i freeserve, fuasa y côst am blwyddyn yn debyg, ond fuasa yr ail blwyddyn am ddim gyda 11mb/second (mwyafrif) yn hytrach na 56k ar modem.

fuasa 'na ddim angen ISP's o gwbwl os tasa pawb yn gwneud, a hefyd fuasa fo'n lladd 3G yn syth. Revoloutionary Utopia?

Iawn ta pwy sydd am bwyta'r pringles nhw i gyd? :lol:

o.n. mae yna amryw o dolennau yn fama- http://llyn.net
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: Caerdydd, Llangrannog - y byd

Postiogan dafydd » Maw 04 Maw 2003 12:16 pm

Waen a ddywedodd:Os tasa pawb yn cymeryd y technoleg yma ymlaen fuasa 'na rhwydwaith newydd yn bodoli, h.y. haen arall fel y rhyngrwyd 'newydd', ond heb BT a weddill y telco's :!:

fuasa 'na ddim angen ISP's o gwbwl os tasa pawb yn gwneud, a hefyd fuasa fo'n lladd 3G yn syth. Revoloutionary Utopia?


Ymm.. mae dal angen cysylltiadau cyflym i'r rhyngrwyd drwy ISP hyd yn oed a gyfer 'utopia' di-wifr. Mae rhywun rhywle yn talu am y bandwidth, does dim fath beth a cinio am ddim. A mae rhywun rhywle yn gosod caledwedd a edrych ar ol y rhwydwaith byd-eang a gwneud yn siwr fod y pacedi yn mynd drwodd i bob rhan o'r rhyngrwyd. A gesia be.. yr ISPs mawr sy'n gwneud hynny..

Mi alle di greu rhwydwaith fewnol mewn ardaloedd poblog lle fyddai pawb yn siarad ymysg ei gilydd a danfon ffeiliau o gwmpas ar 10Mb/s. Ond cam yn ol yw hynny o weledigaeth y rhyngrwyd... rhyw fath o ghettonet. Mae di-wifr yn ddefnyddiol ar gyfer ymestyn cyrhaeddiad y rhyngrwyd i ardaloedd gwledig ond dyw e ddim yn ateb gwyrthiol i bopeth.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

ISP? i be rwan?

Postiogan Waen » Maw 04 Maw 2003 1:10 pm

Ymm.. mae dal angen cysylltiadau cyflym i'r rhyngrwyd drwy ISP hyd yn oed a gyfer 'utopia' di-wifr. Mae rhywun rhywle yn talu am y bandwidth, does dim fath beth a cinio am ddim. A mae rhywun rhywle yn gosod caledwedd a edrych ar ol y rhwydwaith byd-eang a gwneud yn siwr fod y pacedi yn mynd drwodd i bob rhan o'r rhyngrwyd. A gesia be.. yr ISPs mawr sy'n gwneud hynny..


Pam bod angen cysylltiad cyflym i'r rhyngrwyd? A pwy ddylswn i talu i ddefnyddio bandwidth di-wifr rhwng cyfrifiadur fi a sawl arall?

Mi alle di greu rhwydwaith fewnol mewn ardaloedd poblog

yn union ..... a mae'n posib cysylltu y rhwydweithiau yma at ei gilydd yn yr un modd.

On i yn meddwl bod y rhyngrwyd yn rhwydwaith o cyfrifiaduron - dyna be dwi'n son am dan ond heb gwifrau BT, Ymestynwch dy ben am ychydig uwchben hyn. :winc:

Dim cinio am ddim na rhoid trwyn yn y cafn - creu rhyngrwyd newydd :!:
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: ISP? i be rwan?

Postiogan dafydd » Maw 04 Maw 2003 1:43 pm

Waen a ddywedodd:Pam bod angen cysylltiad cyflym i'r rhyngrwyd?


Pam fod angen cysylltiad o gwbl i'r rhyngrwyd? Pam fod pobl yn gofyn am band llydan i'w cartref? Nid ar gyfer rhannu ffeiliau gyda Wil drws nesaf ond i gael mynediad i'r rhyngrwyd. Dyna'r unig gymhelliad ar hyn o bryd.

Waen a ddywedodd:A pwy ddylswn i talu i ddefnyddio bandwidth di-wifr rhwng cyfrifiadur fi a sawl arall?


Wel yn un peth, dyw'r system yma ddim yn scalable. Mae'n iawn ar gyfer fyny at 50 defnyddiwr ond tria ddefnyddio rhwydwaith 10Mbit gyda mwy na 40 neu 50 defnyddiwr i gyd yn trosglwyddo ffeiliau a weli di'r broblem. Mae unrhyw un sydd wedi rheoli LAN 10Mbit wedi gweld y broblem.

Waen a ddywedodd:On i yn meddwl bod y rhyngrwyd yn rhwydwaith o cyfrifiaduron. Dim cinio am ddim na rhoid trwyn yn y cafn - creu rhyngrwyd newydd


Mae'r un sydd gyda ni yn ddigon da diolch yn fawr. Beth sydd angen gwneud yw ymestyn a datganoli y strwythur sydd ar gael ar hyn o bryd.. mae gormod o'r rhwydwaith a'r pwyntiau cysylltu wedi ei canoli yn y dinasoedd mawr.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

???

Postiogan Waen » Maw 04 Maw 2003 2:41 pm

Sut ti gwybod bod Wil yn byw drws nesaf? :lol:
Ond i bod o difri - Os ti 'mond angen mynediad i'r rhyngrwyd iawn, pawb yn hapus, Ond ar ol cael mynediad ti eisio gwneud be? - cael gwybodaeth oddiar cyfrifiadur arall.
Nid ar gyfer rhannu ffeiliau gyda Wil drws nesaf
pam ddim, a i cael y ffeiliau yna sydd wedi cael ei sgwennu fel html i gweld gyda porwr, a'r mp3's a.y.y.b.
Maer rhyngrwyd yn rhwydwaith o rhwydwaithiau , Ydi hwn yn 'scalable'? be di'r wahaniaeth yma?
Mae'n iawn ar gyfer fyny at 50 defnyddiwr
well dweud wrth penrhyndeudraeth, mae nhw newydd lansio prosiect werth £3.4 milliwn i pobol ochra Blaenau, Port, Harlech, fydd yn cysylltu dros 1,000 o cartrefi gyda'r technoleg yma.

Mae'r un sydd gyda ni yn ddigon da diolch yn fawr
dyna be on i yn dweud am y sinclair spectrum, a Bill Gates pan nath o dweud bod 64Mb o ram yn mwy na digon.

Ond os wyt yn hapus fel ag yr wyt - pob lwc :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: ???

Postiogan dafydd » Maw 04 Maw 2003 3:21 pm

Waen a ddywedodd:Ond i bod o difri - Os ti 'mond angen mynediad i'r rhyngrwyd iawn, pawb yn hapus, Ond ar ol cael mynediad ti eisio gwneud be? - cael gwybodaeth oddiar cyfrifiadur arall.


Oddi ar y rhyngrwyd byd-eang wyt ti eisiau cael gwybodaeth y bennaf, nid o drws nesaf. er enghraifft, mae Maes-E yn byw yn LA, UDA. Sdim llawer o bwynt cael rhwydwaith cyflym yng Ngwm Scwt os ydi 1500 o ddefnyddwyr i gyd yn cael ei gwasgu drwy linell 2Mbit i gysylltu a chyfrifiaduron ar draws y byd. Hynny yw mae rhaid cael ISP ar gyfer uplink 54Mbit neu debyg.. naill ai loeren (sy'n hollol anaddas) neu rwydwaith band llydan BT.

Waen a ddywedodd:well dweud wrth penrhyndeudraeth, mae nhw newydd lansio prosiect werth £3.4 milliwn i pobol ochra Blaenau, Port, Harlech, fydd yn cysylltu dros 1,000 o cartrefi gyda'r technoleg yma.


Ie, cysylltu y defnyddwyr gyda hub canolog lle mae yna gysylltiad cyflym i'r rhyngrwyd. A beth yw'r cysylltiad cyflym i'r rhwyd? ADSL, drwy strwythur BT. Y prif bwynt i di-wifr ar hyn o bryd yw cwblhau'r 'local loop' lle nad yw BT yn gallu cyrraedd gyda technoleg ADSL.

Fel arfer mae BT angen cael fyny at 400 o ddefnyddwyr yn talu am gysylltiad ADSL cyn gosod y cyfarpar angenrheidiol yn y gyfnewidfa. Ond nawr mae'n bosib rhoi cyfarpar rhatach ar gyfer 16 defnyddwr. Dyna sy'n cael ei osod ym Mlaenau/Corwen/Porthmadog ayyb gyda subsidy o'r cyngor lleol a'r Cynulliad.

A pris y gwasanaeth yma? 15-18 punt/mis. Ddim cweit dy utopia sosialaidd eto mae genna'i ofn.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron