dysgu php

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dysgu php

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 22 Chw 2003 3:09 am

Reit dwi am ddechrau dysgu php fel mission ar gyfer y flwyddyn hon. Wedi diflasu ar ieithoedd (...byd go iawn) am chydig, felly am droi mewn i tech-boi. Unrhyw lefydd ddylswn i fod yn sbio am gymorth?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Sad 22 Chw 2003 11:39 am

Oes. I ddechrau efo, buas o'n syniad da cael PHPEdit http://ozu.arecom-sa.com/~marms/phpedit.net/ meddalwedd golygu sy'n goleuo gwalliau ac yn gwneud yn siwr bod y 'syntax' yn gywir, rhoi rhestr o variables gwahanol etc.

Dysgais i lot ohono drwy lawrlwytho sgriptiau a chwarae o gwmpas efo nhw.

http://php.resourceindex.com/
http://www.phpbuilder.com/
http://www.hotscripts.com/

Os heffet ti gael y côd i unrhyw beth sydd ganddyf i, gofynna.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 22 Chw 2003 9:34 pm

Nice one, diolch am rheina, a fyddai'n siwr o ofyn i ti pan gai'n styc. Dwi'n cychwyn o scratch. Dim ond Pascal (a ymdrech gachlyd ar neud gem text-based i'r Speccy) dwi di neud o'r blaen. Y cynllun ydi cael rhegiadur Cymraeg go iawn ar-lein fel y Profanisaurus ar y Viz webseit. un lle gellir ychwanegu at y geiriadur. Fydd o'n laff rhoi go arni a chael rhgiadur Cymraeg go iawn.

Felly, Kung Fu a PHP am y flwyddyn hon ta! Jest i gael y balans aros mewn/gweld gola dydd yn iawn de.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Sul 23 Chw 2003 12:42 pm

Www, mae hyn i'w weld yn prosiect sydd angen bas-ddata MySQL neu rhywbeth.

Cofia nad ydwyf yn pro.

Hefyd:

http://www.andys.dk/
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 24 Chw 2003 7:41 pm

Ie wedi sylwi neithiwr fy mod angen dysgu llwyth o shit gwahanol. Dwi ar Pennod 1: What isPHP!
Dipyn i fynd dwi'n meddwl, ddim hyd yn oed yn gwybod html eto, he he. Ma'r sdwff databases ac Apache dal i ddod.
Ma'n sialens ddo. Er wedi deud hynny, ydwi rili'n well off dysgu Flash dwad?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan huwwaters » Maw 25 Chw 2003 6:12 pm

Posib, ond mae dysgu Flash yn golygu dysgu llwyth fawr o ActionScript ond gall o fod yn werthchweil. Dibynnu be yn union yr wyt eisiau ei wneud, ond be bynnag rhyngweithiol yr hoffet ei wneud yn Flash, yn y pendraw byddi di'n defnyddio MySQL a PHP.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron