BAND EANG LLOEREN!

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

BAND EANG LLOEREN!

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 07 Maw 2003 10:32 pm

Mae y cwmni i fi'n gweithio iddi yn meddwl cael Band-eang Lloeren. Yn Llanfihangel ar Arth chi'n gweld dos dim modd cael Band Eang trwy wifren. :crio:

Y Cost o setio i fynny yw tua £800 a bydd yn costio tua £59.99 y mis. Prisiau BT yw hwn gyda llaa. Ryn ni wedi cael cynnig grant o tua £810 gan y WDA - http://www.wda.co.uk/wl/technology_and_innovation/broadband.cfm

Beth mae pobl yn meddwl? Ydy'r sustem yma yn eilydd da i ASDL. Oes modd lawrlwytho a lanlwytho fel Dial Up cyffredin? Rhywyn arall yn meddwl dilyn y scheme?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: BAND EANG LLOEREN!

Postiogan dafydd » Sad 08 Maw 2003 2:15 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae y cwmni i fi'n gweithio iddi yn meddwl cael Band-eang Lloeren. Yn Llanfihangel ar Arth chi'n gweld dos dim modd cael Band Eang trwy wifren. :crio:

Beth mae pobl yn meddwl? Ydy'r sustem yma yn eilydd da i ASDL. Oes modd lawrlwytho a lanlwytho fel Dial Up cyffredin? Rhywyn arall yn meddwl dilyn y scheme?


Mae cysylltiad lloeren yn ateb gweddol dda a'r unig ateb sydd ar gael 'nawr' ond mae yna nifer o broblemau, a falle byddai'n werth buddsoddi'r arian mewn dull arall, yn y tymor hir. Yn ol profiad nifer o bobl ar dreialon band-eang lloeren, does byth garanti fod y cyfradd llawn ar gael drwy'r amser a weithiau fe all fod yn arafach na modem cyffredin.

Wedyn mae'r broblem o latency. Oherwydd fod rhaid i'r signal fynd fyny a nol i'r lloeren yn ogystal a drwy'r rhyngrwyd, fe allwch chi aros am rhwng 5 a 10 eiliad cyn fod data yn dechrau treiddio nol ar ol gofyn amdano. Unwaith mae'n dechrau, fe fydd yn dod yn weddol rhwydd.

Y peth cyntaf fasen i'n dweud fod angen dangos i BT fod yna farchnad i ADSL, yn yr achos yma ar gyfnewidfa Pencader. Mae 18 o unigolion neu fusnesau wedi gwneud hynny'n barod ar gyfer Pencader. Fel arfer mae BT angen rhwng 300 a 400 wedi cofrestru cyn buddsoddi'r arian i uwchraddio cyfnewidfa. Ond mae nhw'n treialu cyfarpar fyddai'n ddigon rhad i wneud hi'n bosib i gynnig ADSL ar gyfnewidfa ar gyfer cyn lleied a 16 cwsmer. Dwi'n credu fydd yr opsiwn hyn ar gael erbyn yr haf a mi fyddai y WDA yn gallu helpu gyda'r costau gymharol isel.

Mae yna cwpl arall fyddai'n rhatach a mwy dibynadwy. Ni fydden nhw'n cynnig band eang 'llawn' (h.y. 512k/s+) ond yn ddigon cyflym i ran fwyaf o ddefnyddwyr - mae'n dibynnu beth fydd prif ddefnydd y cysylltiad. Mae'n werth cofio nad yw ADSL yn sicrhau cyfradd o 512k/s drwy'r amser.. mewn theori fe all fynd mor isel a 10k/s i bob cwsmer .

1) ISDN2 - 128k/s yn garantid (yn wahanol i ADSL) ac ar gael drwy Gymru gyfan.
2) Mae BT ar fin lawnsio gwasanaeth sydd yn eistedd rhwng ISDN a ADSL.. 'midband', 256k/s dwi'n credu. Mi fydd hyn yr un fath a ADSL yn y ffaith fod y cysylltiad mlaen drwy'r amser a dim costau ychwanegol.

Mae yna nifer o atebion posibl 'ar y gorwel' a ateb dros dro yw lloeren. Y broblem yw fod y diwydiant wedi creu'r propaganda fod rhaid cael band eang ond does ganddyn nhw ddim yr atebion i'w gynnig i o leia 50% o'i cwsmeriaid. Ac oes yw pob un o'r rheiny yn troi at wasanaeth lloeren (drud) fydd byth marchnad ar gyfer ADSL (rhad ac yn dod yn rhatach drwy'r amser).

Mae yna broblem 'cyw a'r wy' mawr yn y sefyllfa yma ond pob lwc beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 08 Maw 2003 12:09 pm

Diolch yn fawr Dafydd. Mae lot o wybodaeth defnyddiol iawn yma. Af i ymchwilio yn syth.

Diolch To. :lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron