symbol hawlfraint

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

symbol hawlfraint

Postiogan Alys » Gwe 28 Maw 2003 6:37 pm

Oes na rywun yn gwbod lle ca i hyd i'r symbol hawlfraint - fel © ond efo h?

Methu dod o hyd iddo yn Word.

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Re: symbol hawlfraint

Postiogan dafydd » Gwe 28 Maw 2003 6:49 pm

Alys a ddywedodd:Oes na rywun yn gwbod lle ca i hyd i'r symbol hawlfraint - fel © ond efo h?


Does dim un, heblaw fod ti'n creu ffont neu Clip Art ar gyfer y symbol. Ond does dim byd arbennig am © i fod yn onest.. Dwi'n defnyddio (h) os oes raid i'w roi ar ddarn o waith.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan huwwaters » Sad 29 Maw 2003 11:54 am

Www, wnai drio creu ffont iddo. Gall unrhyw un gwneud hyn efo Macromedia Fontographer (neu meddalwedd arall) a golygydd delwedd fel Photoshop neu Fireworks.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Alys » Sad 29 Maw 2003 5:58 pm

Diolch Huw, byddwn yn ddiolchgar. :D

Gall unrhyw un gwneud hyn efo Macromedia Fontographer (neu meddalwedd arall) a golygydd delwedd fel Photoshop neu Fireworks.

... Os oes gen ti glem sut i'w wneud! Wedi chwarae efo'r meddalwedd sy geni am oriau (wel hanner awr!) ond methu cael o'n iawn rywsut.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan sbwriel » Llun 31 Maw 2003 5:45 pm

mae yna rhai ffontiau cymraeg yn barod sy nid yn unig yn cynnwys hawlfraint, ond hefyd y, w, ayyb sydd gyda to ( ^ ) arnyn nhw...

sain gwbod lle i gael nhw ddo
Rhithffurf defnyddiwr
sbwriel
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 425
Ymunwyd: Iau 07 Tach 2002 1:19 pm

Postiogan ceribethlem » Llun 31 Maw 2003 7:46 pm

mae yna rhai ffontiau cymraeg yn barod sy nid yn unig yn cynnwys hawlfraint, ond hefyd y, w, ayyb sydd gyda to ( ^ ) arnyn nhw...

sain gwbod lle i gael nhw ddo


Os wyt ti'n defnyddio "Microsoft Word" cer mewn i "Insert", wedyn "Symbol". Mae nifer o rhain yn cynnwys pethau fel â ê î ô û ŵ ŷ ï
Mae'r rhain i'w cael dan "Times New Roman" yn sicr, efallai dan ambell ffont arall hefyd.

Oes na rywun yn gwbod lle ca i hyd i'r symbol hawlfraint - fel © ond efo h?

Methu dod o hyd iddo yn Word.

Diolch


Os ei di mewn i "Insert", "Symbol" wedyn yn y ffont cer lawr i "Symbol" eto, mae H mewn cylch, fi methu pastio fe mewn fan hyn achos mae'n dod mas fel Q am rhyw rheswm.

Gwd nawr.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 31 Maw 2003 10:54 pm

O ni jyst yn sylwi-sgena ni ddim (c) yn Gymraeg hyd yn oed yn ffontia Cymdeithas yr Iaith!

Sort it out Iwan!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Alys » Maw 01 Ebr 2003 8:39 am

Os ei di mewn i "Insert", "Symbol" wedyn yn y ffont cer lawr i "Symbol" eto, mae H mewn cylch,

Dwi wedi trio hynny'n barod, dwi'n defnyddio'r w^, y^ ayb trwy'r amser, ond dwi newydd ei ail-djecio rwan, dim yma. Mae gen i bopeth arall, (c), (r) ayb ayb, ond methu dod o hyd i (h).
Office 2000 ar Windows 98 sgen i, ella fod ti'n sôn am XP? Neu ella dwi isio sbectol newydd :)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan ceribethlem » Maw 01 Ebr 2003 4:10 pm

XP sydd gyda fi, ond dwi ddim yn siwr pa fershwn o Word.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 01 Ebr 2003 4:47 pm

Alys a ddywedodd:
Os ei di mewn i "Insert", "Symbol" wedyn yn y ffont cer lawr i "Symbol" eto, mae H mewn cylch,

Dwi wedi trio hynny'n barod, dwi'n defnyddio'r w^, y^ ayb trwy'r amser, ond dwi newydd ei ail-djecio rwan, dim yma. Mae gen i bopeth arall, (c), (r) ayb ayb, ond methu dod o hyd i (h).
Office 2000 ar Windows 98 sgen i, ella fod ti'n sôn am XP? Neu ella dwi isio sbectol newydd :)


Dyw Microsoft ddim yn darparu ar gyfer yr acen grom ar w ac y - ond drwy greu macro.

Os ti'n dal lawr y bwtwm ALT a teipio mewn y rhifau ar dde'r keyaboard dym a be gei di:

Alt 130 > é
Alt 131 > â
Alt 133 > à
Alt 135 > ç
Alt 136 > ê
Alt 137 > ë
Alt 138 > è
Alt 139 > ï
Alt 140 > î
Alt 147 > ô
Alt 150 > û
Alt 160 > á
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nesaf

Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron