gan Siani » Sad 05 Ebr 2003 3:27 pm
Mae Mac yn llym iawn gyda'u hamodau - maen nhw'n gofyn am fanylion eitha manwl ynglyn a'ch cyfrifiadur, (e.e. y rhif cofrestru - a gan taw, yn wahanol i PC's lle mae unrhyw ffwl yn gallu rhoi un gyda'i gilydd, dim ond Apple sy'n adeiladu pob Mac, maen nhw'n gwybod o ble, ac i bwy wnaethon nhw werthu'r peiriant arbennig) ac eisiau gwybod manylion manwl am yr ysgol/prifathro-athrawes/copi o bapur swyddogol yr ysgol/enw a chaniatad y Prif a'r pennaeth Technoleg Gwybodaeth. Rwy newydd dderbyn fy nghopi i. Rwy'n awyddus iawn i lawrlwytho Safari hefyd (yn casau gorfod defnyddio Internet Explorer!) - maen nhw wedi gwneud newidiadau yn y mis diwethaf, ar ol derbyn adborth oddi wrth ddefnyddwyr, ac maen nhw wedi cael gwared a rhai o'r bygs oedd ynddi, mae'n debyg.