Athrawon! - meddalwedd Mac am ddim!

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Athrawon! - meddalwedd Mac am ddim!

Postiogan Siani » Mer 02 Ebr 2003 11:13 pm

Mae copi o Mac OsX v10.2 (y fersiwn ddiweddaraf, gwerth rhyw ganpunt) ar gael am ddim i bob athro/athrawes ysgol uwchradd ym Mhrydain ac Iwerddon tan ddiwedd mis Mehefin. http://www.apple.com/uk/education/macosxforteachers/
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan nicdafis » Iau 03 Ebr 2003 3:15 pm

Mm, ond nid i ni diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Oes unrhyw athro 'ma sy'n ffansio archebu copi i mi ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Iau 03 Ebr 2003 3:46 pm

Www. Mac yn defnyddio tacteg Microsoft yn eu herbyn. Os mae disgyblion ysgol yn dod i arfer efo Mac OS, dyna be fydd well ganddynt wedi iddynt adael yr ysgol.

Ond athrawon sy'n eu cael. Apple yn dibynnu ar viral marketing.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Nionyn » Iau 03 Ebr 2003 5:05 pm

nicdafis a ddywedodd:Mm, ond nid i ni diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Oes unrhyw athro 'ma sy'n ffansio archebu copi i mi ;-)


Mae gennai gopi ohono fo, ac mae'r drwydded yn dweud ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio ar hyd at 5 cyfrifiadur. Mae o ar 2 ar hyn o bryd.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog

Postiogan nicdafis » Iau 03 Ebr 2003 9:47 pm

'Set ti'n fodlon rhannu, byddwn i'n ddiolchgar iawn. Dw i ddim yn despret na dim byd, jyst moyn trial iTunes2 a Safari.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ceribethlem » Iau 03 Ebr 2003 9:50 pm

Does dim Mac gen i, ac rwy'n athro felly os hoffet ti i mi archebu copi gad i mi wybod!
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Siani » Sad 05 Ebr 2003 3:27 pm

Mae Mac yn llym iawn gyda'u hamodau - maen nhw'n gofyn am fanylion eitha manwl ynglyn a'ch cyfrifiadur, (e.e. y rhif cofrestru - a gan taw, yn wahanol i PC's lle mae unrhyw ffwl yn gallu rhoi un gyda'i gilydd, dim ond Apple sy'n adeiladu pob Mac, maen nhw'n gwybod o ble, ac i bwy wnaethon nhw werthu'r peiriant arbennig) ac eisiau gwybod manylion manwl am yr ysgol/prifathro-athrawes/copi o bapur swyddogol yr ysgol/enw a chaniatad y Prif a'r pennaeth Technoleg Gwybodaeth. Rwy newydd dderbyn fy nghopi i. Rwy'n awyddus iawn i lawrlwytho Safari hefyd (yn casau gorfod defnyddio Internet Explorer!) - maen nhw wedi gwneud newidiadau yn y mis diwethaf, ar ol derbyn adborth oddi wrth ddefnyddwyr, ac maen nhw wedi cael gwared a rhai o'r bygs oedd ynddi, mae'n debyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan Nionyn » Sad 05 Ebr 2003 7:21 pm

Mae Safari'n dal reit buggy. Mae gennai 'leaked release' v67, sydd hefo tabs :D, ond mae Camino yn llawer gwell porwr ar hyn bryd.
Better to keep quiet and be thought a fool than open your mouth and remove all doubt.
Rhithffurf defnyddiwr
Nionyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Llun 17 Maw 2003 7:38 pm
Lleoliad: Ganol y Smog


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai