Be di'r ISP gorau?

Bydysawd yr uwchnerdiaid

Cymedrolwr: dafydd

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod unrhywbeth sy'n ymwneud â Dylunio, Technoleg a'r We. Problem cyfrifiadurol? Bydd aelodau'r maes yn falch o gynnig cymorth. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Be di'r ISP gorau?

Postiogan Alys » Maw 22 Ebr 2003 4:53 pm

Fedar rhywun argymell ISP da?
Dyna jyst be dwi isio ar ôl diwrnod o waith! Dwi newydd gael neges gan fy ISp bod y cwmni'n mynd i ddwylo'r receivers Ddydd Iau. :(
Mae rhyw sôn yn y neges bod cwmni arall yn cymryd drosodd ond dydyn nhw ddim yn ateb y ffôn ar hyn o bryd (gormod o bobl fel fi yn ffonio mewn panics, debyg)

Dwi'n dechra teimlo mod i'n newid ISP fel newid sanau :rolio: , felly pwy ydi'r ISP/gweinyddiwr gorau? Cyfan dwi isio ydi e-bost a rhywle i hostio wefan. Well gen i dalu rhywfaint y mis (tua £15 ar hyn o bryd dwi'n meddwl) a chael mynediad trwy'r amser.
Diolch am unrhyw gyngor!
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan huwwaters » Maw 22 Ebr 2003 7:40 pm

Wel dwi'n defnyddio BT Internet neu Bt Openworld bellach, a mae'r gwasanaeth ar ei orau o hyd. Dwi o hyd yn cael cyflymderoedd uchel ar y cysylltiadau, ac efo cyfrif post-e a lle ar y gweinyddiwr ar gyfer gwefan.

Dylwch chi ddisgwyl na fydd y "hwch yn mynd trwy'r siop" efo BT am ei fod yr unig cwmni ar gyfer gwasanaeth teleffôn y DU.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Alys » Mer 23 Ebr 2003 8:25 am

Diolch Huw.
Wnes i ddim meddwl am BT am fod pawb yn dweud eu bod yn crap ar un adeg, ond maen nhw wedi gwella yn ddiweddar dwi'n meddwl. Na i edrych ar be sy gynnon nhw i'w gynnig.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan huwwaters » Mer 23 Ebr 2003 12:12 pm

Oedd BT arfer a bod yn warthus efo'r Surft Together, £10 i gael mynd ymlaen am ddim ar ôl 6 ac at y penwythnosau. Doedd hi ddim yn bosib gwneud dim, ond rwan, oherwydd eu bod yn cael eu talu amdano, maent efo rhwbeth i hybu eu gweinyddion.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm


Dychwelyd i Dylunio, Technoleg a'r We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai