Fedar rhywun argymell ISP da?
Dyna jyst be dwi isio ar ôl diwrnod o waith! Dwi newydd gael neges gan fy ISp bod y cwmni'n mynd i ddwylo'r receivers Ddydd Iau.
Mae rhyw sôn yn y neges bod cwmni arall yn cymryd drosodd ond dydyn nhw ddim yn ateb y ffôn ar hyn o bryd (gormod o bobl fel fi yn ffonio mewn panics, debyg)
Dwi'n dechra teimlo mod i'n newid ISP fel newid sanau , felly pwy ydi'r ISP/gweinyddiwr gorau? Cyfan dwi isio ydi e-bost a rhywle i hostio wefan. Well gen i dalu rhywfaint y mis (tua £15 ar hyn o bryd dwi'n meddwl) a chael mynediad trwy'r amser.
Diolch am unrhyw gyngor!