Tudalen 1 o 4
Skype - Ffonio dros y we
Postiwyd:
Llun 15 Tach 2004 10:29 pm
gan Yr Atal Genhedlaeth
Dyma'r craze diweddaraf dwi'n iwsio! Ffordd o siarad dros y we gyda cyfeillion a theulu. VoIP - neu 'Voice over IP' / 'IP telephony' di'r dechnoleg. Mae'n gweithio drwy ddefnyddio'r we fel ffordd o drosglwyddo galwad ffôn a mae galwadau o PC i PC am ddim ! Mae galwadau o PC i linellau ffôn normal yn tua 1.2c y funud unrhyw amser o'r dydd i Brydain ac i rhan fwyaf o Ewrop a'r UDA ! Mae costau ffôn symudol tua 26c y funud. Mae'n gweithio'n well os oes gennych fand-eang.
Os da chi isio trio fo allan, ffoniwch fi (os dwi ar lein!) drwy fynd i
callto://owainmorris/
Lawrlwythwch AM DDIM yma
http://www.skype.com
Postiwyd:
Llun 15 Tach 2004 10:42 pm
gan llin
Mae hwn allan ers tro, oleiaf blwyddyn dwin meddwl!!
Postiwyd:
Llun 15 Tach 2004 10:51 pm
gan Yr Atal Genhedlaeth
Nes i'm deud ei fod o newydd ddod allan! Eisiau dechrau trafodaeth ar y peth o'n i. Mae o'n newydd i lot o bobl dwi'n siwr. Be am gael ymateb adeiladol ?
Postiwyd:
Llun 15 Tach 2004 11:05 pm
gan llin
Sori - dyna dwin gael am 'sgimio' negeseuon yn lle darllen yn iawn.
Dwi'n defnyddio hwn o dro i dro, yn bennaf i siarad gyda pobol sydd ddim yn yr un wlad a minnau - defnyddiol iawn gan ei fod am ddim!
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 5:55 pm
gan Rhodri Nwdls
Rywun arall yn Skype-io yma?
Newydd fod ar y ffon efo met i fi sydd yn Japan, a siarad efo ffrind arall yn Estonia chydig bach yn ol hefyd. Oll am ddim. Blydi gret.
Wedi bod yn witsiad i gael arno fo ers tipyn ond doedd gen i ddim meicroffon. Yn ol y son mae'r galwadau o Skype i ffonau arferol a mobeils yn rhad iawn hefyd.
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 6:07 pm
gan Al
yeah di bod yn defnyddio fe ers amser maith, mae rhaid talu am rhyw tocyn os rydech eisiau galw ffon arferol gyda y skype cofiwch.
Enw defnyddiwr fi yw Cymrocadarn os dwin cofio yn iawn.
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 6:07 pm
gan Wilfred
Da ni'n defnyddio hwn yn ty ni ond y broblem ar y funud ydi does na ddim digon o bobl yn ei ddefnyddio mater o amser ma siwr. Y peth gora am y peth ydi i fod o am ddim.
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 6:28 pm
gan Rhodri Nwdls
el_contito dwi os ma rywun isio sgwrs...
Postiwyd:
Iau 14 Ebr 2005 9:22 pm
gan huwwaters
Ma hwn yn smart. F'enw i arno yw huwwaters (fel arfer). Hwyl
Postiwyd:
Sul 05 Tach 2006 7:31 pm
gan Dafydd ab Iago
huwwaters a ddywedodd:Ma hwn yn smart. F'enw i arno yw huwwaters (fel arfer). Hwyl
Oes rhestr o bobl sy eisiau siarad Cymraeg ac yn defnyddio skype? Dwi wedi trio Tafarn y Byd (
http://tafarnybyd.blogspot.com/ ) ac wedi trefni skypecast fy hunan hefyd ond doedd neb yn ymuno a'r sgwrs!
Dwi'n byw ar y cefndir ac does dim lot o gyfle i siarad Cymraeg!
Fy rhif skype yw dafydd999