Tudalen 3 o 4

Skype yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 3:10 pm
gan Ar Roue
Gair bach i ddweud fod Skype ar gael yn Llydaweg, gellir ei ddadlwytho oddi wrth safle "Ofis ar Brezhoneg" - sefydliad lled swyddogol. Fulup Jakez dirprwy penaeth y swyddfa sydd yn gyfrifol am ei addasu i'r Llydaweg, yn wir mae wedi addasu nifer o pethau i'w iaith. Credaf fod Fulup yn siarad Cymraeg

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 3:21 pm
gan Mr Gasyth
krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n defnyddio skype hefyd ond dim ond nhad sy'n gontact gen i ar hyn o bryd. Mae'n rhaglen gret - bron dim delay ac mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio. Da ydyw.


wi'n gweld y 'delay' arno fo yn rhwystredig iawn!

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 4:28 pm
gan Rhys Llwyd
Dwi newydd ei lwytho ond ddim yn deall rhai pethau.

Dwi wedi ffonio mam (land line) oddi ar fy laptop a chael sgwrs yn iawn OND dwi heb roi unrhyw credit ar fy nghyfri i gael ffonio ffonau go-iawn! Sut mae esbonio hyn? Ydych chi'n cael trial minutes o bosib? Ddim yn gadael i mi ffonio mobile though.

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 4:31 pm
gan Rhys Llwyd
Dydy ffonio mobiles ddim yn rhad iawn - Sgwrs awr o fy laptop i fobile Oren yn £9.96 - hynny fymryd yn ddrytach na ffonio mobile o fy mobile.

Fodd bynnag galwad awr o fy laptop i landline dim ond yn 84c

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 7:04 pm
gan gronw
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dydy ffonio mobiles ddim yn rhad iawn - Sgwrs awr o fy laptop i fobile Oren yn £9.96 - hynny fymryd yn ddrytach na ffonio mobile o fy mobile.

cytuno nad yw hynny'n rhad iawn, ond dw i ar pay as you go felly byddai ffonio ffôn symudol sydd ar rwydwaith arall o fy mobile yn ddrud -- taswn i am ryw reswm ishe siarad â rhywun am awr byddai'n costio £24! wow. lwcus bo fi ddim yn foi cyfeillgar a chatty.

dw i yn meddwl bo ti'n cal cwpl o funude am ddim Rhys, digwyddodd hynny i fi hefyd. ti ddim yn cal lot ddo -- jyst digon i brofi bod e'n gweithio, a tua 20 eiliad ar ôl i ti gyffroi am pa mor cŵl yw e mae'n torri'r llinell ac yn disgwyl i ti dalu!

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 11:16 pm
gan Rhys Llwyd
gronw a ddywedodd:dw i yn meddwl bo ti'n cal cwpl o funude am ddim Rhys, digwyddodd hynny i fi hefyd. ti ddim yn cal lot ddo -- jyst digon i brofi bod e'n gweithio, a tua 20 eiliad ar ôl i ti gyffroi am pa mor c?l yw e mae'n torri'r llinell ac yn disgwyl i ti dalu!


Yup dyna ddigwyddodd! Fodd bynnag dwi wedi neud fy syms ac wedi i funudau am ddim yn ffon symudol redeg allan at Skype fydda i yn troi o nawr mlaen
:lol:

Fi yw: 'rhysllwyd' rhagofn fydd rhywyn angen cysylltu!

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 11:15 pm
gan Mali
Newydd ddechrau ei ddefnyddio yma , ac mae'n lot o hwyl. :D
Dim ond wedi ei ddefnyddio efo ffrindiau Cymraeg yng Nghanada hyd yma , ond yn edrych ymlaen i'w ddefnyddio ar gyfer sgwrs fyw efo ffrindiau a theulu yng Nghymru yn fuan iawn.
Ddaru fy ngwr a finna brynu gwe gamera efo meic ynddo yn barod ...safio'r llanastr o gael weiars eraill ar draws y lle.
:winc:

PostioPostiwyd: Maw 20 Maw 2007 11:25 am
gan sanddef
Pa fath o feic sydd angen ei chael?

PostioPostiwyd: Maw 20 Maw 2007 3:48 pm
gan Mali
sanddef a ddywedodd:Pa fath o feic sydd angen ei chael?


Ddim yn defnyddio'r webcam efo'r gliniadur rwan gan nad ydio'n ddigon cyflym i'w gynnal, felly 'dwi 'di prynu headset weddol rhad [ $19.99] ar gyfer galwadau . Mae'n gweithio'n dda !

Re: Skype - Ffonio dros y we

PostioPostiwyd: Mer 06 Mai 2009 3:36 am
gan CarwynLloyd
Ydi Skype a'r gael yn Gymraeg rwan a os ydi sut dwi gallu newid o'r iaith fain!!!!