Tudalen 1 o 1

Corryn

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2003 6:47 pm
gan Mihangel Macintosh
Nesi i dderbyn copi o ffansin celf o'r enw Corryn yn y post cwpwl o ddyddie yn ol. Mae'n cynnwys cyfraniadau gan British Art Collective, Michael Bromley, Mary Edwards, Herb Fleming, D.Jones a Llais Y Werin.

Mae o wedi ei ffotocopio yn ddu a gwyn, felly mae tipyn o'r ansawdd wedi ei gollu. Serch hynnu, llawer o ddelweddau diddorol iawn

E bostiwch corrynarywe@aol.com am gopi.

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2003 8:01 pm
gan nicdafis
Dw i'n credu bod corryn yn aelod (tawel) rownd fan hyn.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Mai 2003 4:46 pm
gan fisyngyrruadre
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n credu bod corryn yn aelod (tawel) rownd fan hyn.
:winc:

Ynglyn a'r neges Mihangel: Ie, cytunaf, biti am y safon o'r ffotocopiau. Wrth gwrs, mae angen mwy o arian i neud copiau lliw arna i. Ond, sti... "from little acorns..." Gawn ni weld....

PostioPostiwyd: Gwe 30 Mai 2003 4:58 pm
gan Mihangel Macintosh
Sgamio llwyth o dosh o Kyngor Kelfeddydau Kymru ?