gan Beti » Mer 29 Awst 2007 12:57 pm
Wel, mae 'na un da yn bodoli - nath o gnocio ar ddrws fy nghariad a deud wrtho fo symud ei gar yn hytrach na rhoi tocyn yn syth iddo fo. Neu dynes oedd hi falle ....wel, y mwnci drwg!
Ond mae'r rhan fwya yn pissing off a hunangyfiawn dydyn. Lle maen nhw pan mae rhywun yn blocio fi mewn neu yn waeth byth, yn parcio o flaen Tesco Canton ac achosi traffic jam! Fan'na dylen nhw fod yn hytrach na rhoi tocynnau i bobl sy'n parcio tu allan i'w tai eu hunain.
Grrrr!
Mae warden traffic Dolgellau (neu mi oedd yr un oedd yna pan o'n i'n ysgol) yn debyg i John Major. O'dd on meddwl mai plismon oedd o. Dim John Major!
I futa fo!