'Rôl ca'l sgwrs hynod lesol da Iesu Nicky Grist am rinweddau a ffaeleddau'r cyflwynwyr garddio Montague Don a Gerallt Pennant mewn edefyn hollol amherthnasol ym Materion Cymru, meddwl sen ni'n dechre meddwl am arddio fel pwnc.
Pwy sy' wedi bod wrthi'n y ganolfan arddio'n prynu pot plants bach neis a choed fale a cheirios fydd bownd o farw unweth i chi fynd a nhw adre?
Chi'n plannu llysie - pa rai? Gwell ffa dringo na sweet pea?
Neu dips am botio perlysiau neu flode ar sil ffenest? Pa mor aml chi'n eu dyfrio?
Y'ch chi wedi gofalu am ryw blanhigyn bach ers dechre coleg a sy' dal da chi fel monster mawr gwyrdd wrth y teli?
Y'ch chi'n cytuno a fi bod Gerallt Pennant yn fwy secsi na Monty Don (mond jyst)?
Croeso i'r border bach ...