Rhys, ti'n gwbo'r geiria i'r darn
Jarman gad y bobl dlawd i fod
Jarman cymra gyngor nawr gen i
Gad y bobl dlawd i fod
Jarman cymra gyngir nawr gen i
Lledaenu syniad drwg ymysg y bobl dlawd
Rwyt tin credu dy fod yn arwr wrth iddynt d'alw di yn frawd
Ond paid a meddwl fod gen ti'r gallu i newid dim o'u gwedd
mae'r llwybr wedi osod lawr yn glir o'r crud i'r bedd
Ganwyd hwy ar y gwaelod,
ac mae'r drefn yn dweudar y gwaleod y cant fod.
Jarman cymra gyngor nawr gen i
Rho gorau i'r corddi a'r codi gobeithion a son am newid byd
Rho daw ar yr holl bregethu dwl ar y dafarn ac ar y stryd
neu mi ddof yn ol a mynd a thi yn syth o flaen dy well
a gwnaf yn siwr y cei di fwlydd neu ddwy tu ol i fariau'r gell.
Ganwyd hwy ar y gwaelod,
ac mae'r drefn yn dweudar y gwaleod y cant fod
Jarman cymra gyngor nawr gen i
Jarman cer yn ol i Firmingham
Cer ath gelwydd cer a'th wenwyn gyda thi
Jarman gad y bobl dlawd i fod
Jarman gad y bobl dlawd i mi
Ganwyd hwy ar y gwaelod,
ac mae'r drefn yn dweud, ac mae'r senedd yn dweud am mae'r eglwys yn dweud, ar y gwaleod y cant fod.
J - O clywch y maer yn dweud y drefn ac yn dangos ei awdurdod
Ond mae dy amser di ath sort yn brysur brusyr ddarfo
A glywest di y bobl dlawd yn canu am ei gobaith
a byddwn ni yn llwyddo Marsh heb dorri yr un gyfraith
(wedyn deuawd rhy gymleth i deipio am sbel, yna siarad -)
Paid bod mor ddiniwed Jarman. Rwyf wedi cael 4 cwyn yn barod gan ffermwyr fod siartwyr wedi bod yn dwyn gynnau. Ie Jarman gynnau
Fel Rhys, ro ni ym ml. 7 pan nath Penweddig y cynhyrchiad, ac mae'r cyfnod yn aros yn un o fy hoff atgofion i o'r ysgol. Sioe wych, gyda ambell i gan yn aml yn gwneud i fi grio
Os oes rhywun mas yna byth yn gwneud cynhyrchiad arall o'r sioe, rhowch wybod, achos fe ddai i'w gweld, neu hyn yn oed i gymryd rhan (!!) dim ots pa mor bell.